Gwrthdrawiad Y Bermo: Teyrnged i ddynes 84 oed

Jean HarrisFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed anwyliaid Jean Harris mai hi "oedd calon ein teulu"

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes oedrannus wedi marw a phedwar o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion un o drefi glan môr y gogledd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ran o'r A496 ger Y Bermo, sy'n cael ei nabod fel y Glandwr Straight, tua 13:14 brynhawn Gwener.

Roedd yna ddau gar yn y gwrthdrawiad - Suzuki Ignis gwyn a Kia Carens arian.

Bu farw Jean Harris, a oedd yn 84 oed ac yn byw yn ardal Dolgellau, yn y fan a'r lle er ymdrechion y gwasanaethau brys i'w hachub.

Dywedodd ei theulu: "Mae ein calonnau wir yn torri bod ein Mam annwyl wedi ei chymryd oddi arnom yn gynamserol.

"Hi oedd calon ein teulu mawr, a fydd ein bywydau byth yr un fath eto. Bydd yn cael ei cholli'n aruthrol."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A496 ar gyrion Y Bermo brynhawn Gwener

Fe gafodd pedwar person eu cludo i ysbyty yn Stoke - tri mewn hofrennydd, ac un mewn ambiwlans.

Mae tri pherson yn dal yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond fe gafodd y pedwerydd adael fore Sadwrn.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Eleri Jones o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru bod eu meddyliau gyda theulu Mrs Harris "ar yr adeg anodd yma".

Ychwanegodd: "Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un all fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu oedd yn teithio ar hyd yr A496 cyn y gwrthdrawiad sydd â lluniau dash cam."

Pynciau cysylltiedig