Dathliadau Gŵyl y Cysegriad yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae dathliadau aml-ffydd wedi cael eu cynnal ledled Cymru wrth i ddiwrnod cyntaf Hanukkah ddisgyn ar yr un diwrnod â'r Nadolig.
Mae Gŵyl y Cysegriad, neu Chanukah yn Hebraeg, yn cael ei dathlu am wyth diwrnod ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr bob blwyddyn, gyda dyddiadau'n newid o ganlyniad i'r calendr lleuad a ddilynir gan Iddewon.
Eleni fe ddechreuodd goleuo traddodiadol yr Hanukiah, candelabrwm, ar noson y 25ain o Ragfyr.
Cafodd Hanukkah ei dathlu ddiwethaf ar yr un diwrnod â'r Nadolig yn 2005 a dim ond pedair gwaith y mae wedi digwydd yn y ganrif ddiwethaf.
I nifer mae'r ŵyl yn golygu goleuo canhwyllau, rhoi anrhegion a bwyta prydau sydd yn cynnwys tipyn o olew.
I Beti, sy'n 11 oed ac o Gaerdydd, dyma'r cyfle cyntaf iddi allu ddathlu Gŵyl y Cysegriad ar y cyd gyda'i ffrindiau sy'n dathlu'r Nadolig.
"Ar yr un diwrnod bydden nhw'n cael agor anrhegion, fyddai i yn hefyd. Felly gallwn ni siarad am y peth."
Er bod 'na nifer o wyliau i'w dathlu, Gŵyl y Cysegriad ydy hoff ddigwyddiad Beti oherwydd y dathliadau teuluol a'r bwyd traddodiadol.
"Byddwn ni'n cael cinio mawr yn y tŷ a wedyn byddwn ni'n goleuo'r canhwyllau ar y noson, pryd mae'r haul yn mynd lawr," ebonia Beti, sydd gyda theulu Iddewig a Christnogol.
"Mae'n spesial i fod hefo fy nheulu. Fel arfer byddwn i'n mynd i dy nain i gael cinio Nadolig ond y flwyddyn yma mae pawb yn dod i ni i rannu. Fydd e'n Nadolig i nhw a Hanukkah i ni."
Beth yw Gŵyl y Cysegriad?
Mae Chanukah, y gair Hebraeg, yn golygu cysegru.
Mae'r ŵyl yn dathlu'r wyrth mae Iddewon yn credu ddigwyddodd yn Jerwsalem dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl pan enillodd grŵp o Iddewon, o'r enw y Maccabees, ryfel tair blynedd yn erbyn yr Ymerawdwr Groegaidd Antiochus, a'u gwaharddodd rhag addoli Duw.
Pan aeth yr Iddewon yn ôl i'r deml, roedd hi bron wedi ei dinistrio, ond daeth y bobl â lamp, a'i chynnau, i gysegru'r deml yn ôl i Dduw.
Dim ond gwerth un diwrnod o olew oedd ar gael, ond yn wyrthiol arhosodd y lamp ynghyn am wyth diwrnod.
Dyna pam mae Iddewon yn cynnau cannwyll yn ddyddiol yn ystod yr ŵyl.
Mae'r ŵyl yn symbol o sut roedd Duw yn gofalu am y bobl Iddewig yn ystod cyfnod anodd.
'Cyfle i weddïo am wyrth heddwch a gobaith'
"Fyddai'n bwyta lot o dwrci a wedyn fyddai'n goleuo'r canwyllau Hanukkah ar yr un diwrnod sydd ddim yn digwydd llawer," meddai Rebecca Wilson, Cymraes o deulu aml-ffydd.
"Mae'n golygu bo' fi'n gorfod prynu presantiau Nadolig i un hanner o fy nheulu a phrynu presantiau Hanukkah i'r teulu arall."
Ar wahân i'r bwyd blasus a'r hwyl i'r teulu, mae Rebecca'n dweud bod ei dathliadau aml-ffydd yn gyfle i weddïo am "wyrth heddwch a gobaith a golau mewn cyfnod tywyll" i'r byd.
Dywedodd ei bod yn gobeithio, gyda'r Nadolig a Hanukkah yn disgyn ar yr un adeg eleni, y bydd pobl yn dysgu mwy am y calendr lleuadol a dyddiadau cyfnewidiol y gwyliau a addolir gan yr Iddewon.
"Mae e'n gret bo' ni'n cael diwrnod o wyliau ar ddiwrnod Nadolig a mae e'n gret bo' fi hefyd yn mynd i gael amser i off i hefyd ddathlu Hanukkah achos fel arfer fydd o ar ôl gwaith neu fydd o ar ôl Nadolig."
Fe ddechreuodd y dathlu ar noswaith y 25ain o Ragfyr a byddant yn para am wyth diwrnod.