100 mlynedd ers darllediad cyntaf stiwdio'r BBC yn Abertawe

BBC Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Y stiwdio ar Heol Alexandra yn Abertawe ar ôl iddo ailagor yn 1952 wedi difrod o'r Ail Ryfel Byd

  • Cyhoeddwyd

Mae'n ganrif union ers y darllediad cynta' o stiwdio'r BBC yn Abertawe.

Am 19:30 ar 12 Rhagfyr 1924, fe agorodd yr ail orsaf yng Nghymru gyda'r anthem genedlaethol.

Daeth sefydlu'r stiwdio yn Abertawe 18 mis ers agor stiwdio Caerdydd - a chwta ddwy flynedd ers sefydlu'r Cwmni Darlledu Brydeinig, fel oedd y BBC yn y dyddiau cynnar hynny.

"Oedd Abertawe ei hunain yn browd iawn," meddai'r hanesydd darlledu, yr Athro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth.

"Roedd 'na falchder mawr, mae rhywun yn gallu gweld hynny o'r papurau newyddion lleol ar y pryd – pobl yn sgwennu at y BBC, pobl yn sgwennu at y papurau yn falch iawn bod y dechnoleg newydd wedi cyrraedd – dyma'r tro cyntaf i'r wireless gael ei sefydlu yn Abertawe."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n amlwg fod y Gymraeg ar y noson agoriadol wedi cael tipyn o effaith ar y gwrandawyr," meddai Jamie Medhurst

Cafodd y rhaglen gynta' ei darlledu ledled gwledydd Prydain, a gan fod maer Abertawe, yr Henadur John Lewis, wedi siarad yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg, dyna oedd y tro cyntaf i'r iaith gael ei chlywed y tu hwnt i Gymru ar y radio.

Roedd 'na groeso i'r sylwadau hynny gan rai o'r Cymry alltud, yn ôl Jamie Medhurst.

"Beth sy'n hynod ddiddorol yw bod llythyre'n cael eu sgwennu o Gaeredin, mae George Davies o Belfast oedd yn arfer byw ym Mhontardawe wedi clywed y darllediad a rhywun hefyd yn Wimbledon yn Llundain yn hiraethu ac yn sgwennu 'pam nes i adael Abertawe yn y lle cyntaf – dwi eisiau dod 'nôl'.

"Felly mae'n amlwg fod y Gymraeg ar y noson agoriadol wedi cael tipyn o effaith ar y gwrandawyr."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd adeilad 32 Heol Alexandra ei ddinistrio gan fom Almaeneg yn 1941

Cartre'r BBC yn y ddinas am ran fwya'r ganrif ddiwetha' yw 32 Heol Alexandra, ond bu'n rhaid symud oddi yno ym 1941, ar ôl i un o fomiau'r Almaen daro'r adeilad a'i ddinistrio.

Symudodd staff y BBC i Gaerfyrddin, ond er gwaetha ymdrech yn y dref honno i gadw'r Gorfforaeth yno, fe ddychwelodd i Abertawe ac fe ailagorodd y ganolfan ar ddechrau'r 50au.

Disgrifiad o’r llun,

Y stiwdio ar ôl cael ei fomio

Dyma oedd oes aur radio, yn enwedig ym myd y ddrama. Ymhlith y cyfresi poblogaidd oedd 'Teulu Tŷ Coch' - yr opera sebon gynta' yn y Gymraeg yn ôl pob tebyg, a roddodd gyfle cynnar i Sian Phillips arddangos ei sgiliau actio.

Cyfres ddaeth wedyn oedd 'Teulu'r Mans' a bachgen o Waun Cae Gurwen yn cael cyfle i ddarlledu am y tro cynta'.

"Mae tua 65 o flynyddoedd yn ôl, felly ychydig yn niwlog yw'r cof am y peth. Dwi ddim yn siŵr sut ges i fod ar y peth," meddai Huw Llywelyn Davies.

Disgrifiad o’r llun,

"O'n ni'n neud y rhannau sain i gyd yn y stiwdio," meddai Huw Llywelyn Davies

Ychwanegodd: "Dwi'n cofio – o'n i siŵr o fod tua 14/15 oed, yn mynd lawr ar y bys o Gwaun Cae Gurwen rhyw 15 milltir, a mewn fan 'ny ar bnawn dydd Sadwrn gyda'r bobl 'ma.

"Dwi'n cofio Cynddylan Williams oedd y Gweinidog – yn eironig tafarnwr oedd Cynddylan yn berchen Tafarn y Deryn neu'r Royal Oak yn Llanedi ac Olive Michael oedd yn fam.

"Islwyn y mab bach oeddwn i, ac yn ddiddorol tan bo fi'n mynd 'na, Olive Michael oedd yn chwarae rhan Islwyn y mab bach, yn esgus bod yn grwt ifanc ond wedyn cafodd ei dyrchafu wedyn i fod yn fam.

"Dwi ddim yn gwybod os ydi'r run peth yn digwydd gyda dramâu nawr, ond o ni'n neud y rhannau sain i gyd yn y stiwdio, hynny yw cau drws, neu oedd bocs a cerrig man ynddo fe os oedd rhywun yn crenshian ei ffordd at y tŷ, neu llestri ar y ford neu rhywbeth tebyg - ni oedd yn neud y cwbl yn y stiwdio."

Disgrifiad o’r llun,

Dylan Thomas yn recordio yn y stiwdio

Roedd y bardd Dylan Thomas hefyd yn ymwelydd cyson â'r stiwdio, a Wynford Vaughan Thomas hefyd i'w glywed yn aml o Abertawe.

Ond erbyn diwedd y 60au, roedd y stiwdio wedi cau - arwydd o'r llanw a thrai sydd wedi bod yn hanes y lle yn ôl Lyn T Jones, fu'n gynhyrchydd radio yno ac yn bennaeth pan ailagorodd y ganolfan ar ddechrau'r 80au - ar adeg twf yn oriau darlledu Radio Cymru a Radio Wales.

"Mi roedd 'na ambell i adeg pan oedd dyn yn teimlo bod Abertawe yn cael ei thrin fel pêl wleidyddol gan y BBC - pan oedd 'na wasgfa ariannol, fwy nag unwaith hyd yn oed reit o'r blynyddoedd cynnar, mi roedd Abertawe yn cael rhyw fath o gic fach lawr y rhewl am ychydig.

"Ac yn '67 pan benderfynwyd adeiladu y palas yn Llandaf, mi oedd angen yr arian i gyd i wneud hwnnw, felly penderfynwyd cau'r drysau yn Abertawe ... wel ddim cweit, mi arhosodd Themla Jones ar ôl - hi oedd yn gweinyddu'r lle, i gadw'r stiwdio fach ar gyfer newyddion a chwaraeon, a mi gadwodd hi hwnnw i fynd am bymtheg mlynedd, tan i rywun arall gael syniad o ailagor Abertawe."

Disgrifiad o’r llun,

Sulwyn Thomas oedd yn cyflwyno rhaglen Stondin Sulwyn ar Radio Cymru o Abertawe

Un o'r rhaglenni amlyca' i'w darlledu o Abertawe o ddechrau'r 1980au oedd Stondin Sulwyn ar Radio Cymru.

"Oedd e'n fyrlymus, gwbl fyrlymus ac wrth gwrs yn gyffrous iawn," meddai Sulwyn Thomas.

"O'n ni gyd yn gwbod am y stori fod y BBC wedi cau y ganolfan yn 32 Heol Alexandra i bob pwrpas, ac yn sydyn reit ma' nhw'n penderfynu bo nhw'n ail agor 'to ac fe ges i'r fraint o fynd yno – nid gyda'r cynta' – ond pan benderfynwyd bo nhw'n mynd i gael sioe ddyddiol ychwanegol i 'Helo Bobol' a 'Post Prynhawn', finne ga'th y fraint o neud y Stondin o Abertawe bob dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Elinor Jones fu'n cyflwyno'r rhaglen sgwrsio 'Te ar Ben Talar' am ryw ddegawd

Ymhlith y lleisiau eraill oedd i'w clywed o Abertawe oedd Richard Rees a 'Sosban', Aled Samuel, Gary Slaymaker ac Elinor Jones, fu'n cyflwyno'r rhaglen sgwrsio 'Te ar Ben Talar' am ryw ddegawd.

Mae ganddi atgofion melys o'i chyfnod yn Heol Alexandra.

"Lle hyfryd i ddechre, cartrefol iawn. O ni hyd yn oed yn cael te neu goffi mas o cwpane tseina a soser! Math 'na o beth oedd hi.

"Odd y staff yn hyfryd - oedden nhw'n falch o weld pobl yn dod achos bod cyn lleied yn gweithio 'na yn y bôn, felly oedden nhw'n falch o weld pob un oedd yn dod mewn i neud rhaglenni ac yn y blaen.

"Odd pobl yn galw am sgwrs, pobl falle o Gwm Tawe yn galw mewn i ddweud 'shwd y chi heddi,' dyna'r math o bethe dwi'n cofio am y stiwdios yn Abertawe, ac wrth gwrs oedd e'n handi i'r dre – i neud bach o siopa!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lyn T Jones yn dweud bod stiwdio Abertawe wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddarlledu Cymraeg

Ar un adeg ar ddiwedd yr 80au a dechrau'r 90au cafodd rhaglen 'Newyddion' ar S4C ei chyflwyno o'r stiwdio yn Abertawe ar y cyd â Bangor.

Mae Lyn T Jones yn pwysleisio bod stiwdio Abertawe wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddarlledu Cymraeg.

"Abertawe o ran y de oedd yn agos i'r gymuned Gymraeg ei hiaith, a dwi'n credu bod hynny wedi cael ei hadlewyrchu o ran y rhaglenni oedd yn cael eu gwneud, ac o ran y bobl oedd yn dod i weithio 'na.

"Un o'r pethe pwysica' o ran y gwaith o'n i'n neud oedd sicrhau bod 'na ddilyniant o bobl ifanc yn dod i mewn i'r diwydiant, ac yn symud ymlaen yn y diwydiant ar gyfer y dyfodol."

"Pan 'da ni'n meddwl am hanes darlledu yng Nghymru," meddai'r Athro Jamie Medhurst, "ni'n meddwl am Gaerdydd a gwaith Sam Jones ym Mangor – mae 'na dueddiad i feddwl am Gaerdydd yn y de a Bangor yn y gogledd, ond mae'n bwysig a ninnau'n nodi canmlwyddiant agor gorsaf Abertawe bo ni'n oedi a gwerthfawrogi y cyfraniad mae Abertawe wedi'i wneud i batrwm darlledu Cymru a'r BBC yn ehangach."

Pynciau cysylltiedig