Tinitws: Galw am fwy o gefnogaeth i'r rhai sy'n byw â'r cyflwr

Emyr Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr, 62, yn clywed sŵn mwmian neu gloch fach drwy'r amser yn ei glustiau

  • Cyhoeddwyd

Wrth i adroddiad ddangos bod rhai yn gorfod aros hyd at dair blynedd i gael apwyntiad am y cyflwr tinitws, mae 'na alw am fwy o gefnogaeth i ddioddefwyr.

Roedd Emyr Williams o Nercwys, Sir y Fflint yn blentyn ysgol pan glywodd o synau rhyfedd yn ei glustiau am y tro cyntaf.

"Dwi'n cofio disgwyl bws adra o'r ysgol a troi rownd a deud wrth fy nghefnder ar y pryd 'be ydi'r sŵn whistlo yna?' a hwnnw wedyn yn meddwl mod i yn honco bost," meddai.

"O'n i'n dechra meddwl - be sy'n digwydd i mi?"

Mae Emyr, sy'n 62 oed ac yn gweithio yn y maes hyrwyddo gwyddoniaeth cymunedol ac addysg, yn clywed sŵn mwmian neu gloch fach drwy'r amser yn ei glustiau.

Yn syml, mae tinitws yn sŵn cyson sy'n canu yn y glust er nad oes dim o'ch cwmpas yn gwneud sŵn.

Er ei fod wedi gorfod byw efo'r cyflwr am flynyddoedd mae o'n disgrifio ei hun "yn lwcus" oherwydd fod nifer yn ei chael hi'n anodd iawn ymdopi.

"Dwi'n nabod un neu ddau o bobl sydd wedi cael amser caled iawn, wedi cael iselder ofnadwy a ddim yn gwybod be' i 'neud.

"Mae o'n gallu bod yn galed iawn."

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gefnogi byrddau iechyd i wella gwasanaethau awdioleg, gan ddarparu £1.9m o gyllid blynyddol ar gyfer gwasanaethau oedolion a £1.1m ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc.

Sŵn fel 'foot bath i fyny grisiau'

Wrth geisio disgrifio'r hyn mae o'n ei glywed mae Emyr Williams yn dweud: "Ar y funud yma dwi'n clywed sŵn gwichian uchel yn un glust a gwichian 'chydig bach yn is yn y glust arall.

"A sŵn fel bod rhywun efo foot bath i fyny grisiau, mae o fath â sŵn whoooshhh uwch fy mhen i!

"Mae o'n anodd esbonio."

Mae adroddiad newydd gan Tinnitus UK yn dweud y bydd y cyflwr yn effeithio ar tua wyth miliwn o bobl yn y DU erbyn diwedd 2025.

TinitwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Tinnitus UK yn galw am weithredu brys

Mae adroddiad newydd yn dangos bod rhai yn gorfod aros hyd at dair blynedd i gael apwyntiad gyda'r gwasanaeth Clust, Trwyn a Gwddf (ENT) ac mae elusen Tinnitus UK yn galw am weithredu brys ar bedair elfen:

  • Cwtogi amseroedd aros gwasanaethau Clust, Trwyn a Gwddf (ENT);

  • Rhoi sylw priodol i'r cyflwr o fewn y sector awdioleg preifat;

  • Gwella'r ddarpariaeth therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) mewn clinigau'r gwasanaeth iechyd a rhai preifat;

  • Gwneud yn siŵr bod cyrsiau awdioleg prifysgolion yn cynnig hyfforddiant tinitws pwrpasol.

"Dio'm yn boenus, dwi wedi dod i arfer efo fo," meddai Emyr Williams.

Ond mae'n dweud ei fod yn gallu bod yn ergyd drom i rai sy'n profi'r sŵn am y tro cynta.

"Mae'n gallu bod yn boen meddwl mawr ac mae'n gallu achosi iselder ysbryd.

"Y peth efo tinnitus, mae pawb yn unigolyn, felly ma' rhai ffyrdd o ddelio efo fo yn gweithio i rai ond i'r mwyafrif o bobol y peth i 'neud ydi dysgu i arfer efo fo.

"Toes na'm un peth sy'n gallu cael gwared ohono fo."

Codi ymwybyddiaeth

Mae Emyr yn credu fod yna bwysau mawr ar unedau awdioleg a bod tinitws yn gallu bod yn "faich arall" i arbenigwyr ar ben eu llwyth gwaith anghenion clyw arferol.

O ran meddygon teulu mae'n teimlo weithiau fod yna ddiffyg ymwybyddiaeth ac yn dweud nad yw'n siŵr "os ydyn nhw'n cael digon o hyfforddiant".

Mae o'n deud ei bod hi'n anodd i bobl sy'n dioddef i egluro sut maen nhw'n teimlo wrth eu meddyg.

"Mae o'n wbath cuddiedig ofnadwy, does gen i ddim llythyren T fawr ar fy mhen yn deud fod gen i tinnitus felly does neb yn dallt, does neb yn gwybod.

"Mae yna gymorth i'w gael ond mae'n rhaid i chi fynd i chwilio amdano.

"Mae o'n werth chwilio i weld be fedrwch chi neud i gael petha yn well i chi'ch hun."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r mwyafrif o fyrddau iechyd yng Nghymru yn parhau i berfformio'n gryf o ran amseroedd aros awdioleg, gyda phump o bob saith bwrdd iechyd naill ai gyda neb yn gorfod aros neu niferoedd cymharol fach yn aros dros 14 wythnos am apwyntiadau cymorth clyw cyntaf.

"Rydym yn cydnabod bod gwasanaethau awdioleg yn darparu rôl bwysig wrth wneud diagnosis a phrofi ar gyfer nifer o wahanol gyflyrau yn y glust, gan gynnwys tinitws.

"Rydym yn parhau i gefnogi byrddau iechyd i wella gwasanaethau, gyda chefnogaeth £1.9m o gyllid blynyddol ar gyfer gwasanaethau oedolion a £1.1m ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc."

Pynciau cysylltiedig