Côr byddar 'ysbrydoledig' yn gyfle i ddathlu dawn dysgwyr ADY
- Cyhoeddwyd
"Ysbrydoledig," "fantastic," ac "anhygoel" - rhai o'r disgrifiadau o berfformiad diweddaraf Côr Byddar Cwmbrân.
Mae'r côr yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu clyw i ddod at ei gilydd i ymarfer a pherfformio.
Dros y blynyddoedd mae llwyfannau'r côr - sy'n cynnwys aelodau o wahanol rannau o ardal Gwent - wedi amrywio o neuaddau pentref i Stadiwm Principality.
Cafodd cyngerdd Nadolig y côr ei gynnal ar gampws Casnewydd Coleg Gwent eleni - sefydliad sydd wedi rhoi pwyslais yn ddiweddar ar gefnogi dysgwyr byddar.
Yn ôl Pennaeth Coleg Gwent, Nicola Gamlin, roedd gwylio "talentau anhygoel" y côr yn enghraifft o sut mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn ffynnu yn y coleg a thu hwnt.
Dros y pedair blynedd diwethaf mae dysgwyr â nam ar eu clyw o Ysgol Uwchradd Cwmbrân wedi bod yn rhan o'r Clwb Byddar yng Ngholeg Gwent.
Y nod yw helpu magu hyder y dysgwyr a chefnogi gyda'r cyfnod trosglwyddo o'r ysgol.
Mae gan y coleg bartneriaeth hefyd gydag Elite - elusen sy'n cefnogi dysgwyr wrth iddynt bontio i fyd gwaith.
Yn 2023-24 nododd 78 o ddysgwyr yn y coleg 'nam ar y clyw' fel angen dysgu ychwanegol.
'Dysgwyr ag ADY yn ffynnu'
Ychwanegodd Ms Gamlin: "Mae'r perfformiad ysbrydoledig hwn yn enghraifft o sut mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn ffynnu yn y coleg a thu hwnt.
"Yng Ngholeg Gwent, mae gennym angerdd dros greu amgylchedd cynhwysol lle mae pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyflawni ei botensial llawn.
"Mae gweld y dalent yn cael ei ddathlu yn rhoi teimlad o falchder mawr i mi o ran yr hyn y mae ein dysgwyr wedi'i gyflawni."
Yn ôl Bethan Hurn, tiwtor yng Ngholeg Gwent, roedd gwylio'r côr yn perfformio yn brofiad gwych.
"Mae gyda ni lot o fyfyrwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol yn y coleg, a dwi'n really ffodus i weithio gyda lot o'r dysgwyr hynny.
"Roedd Côr Byddar Cwmbrân fewn gyda ni... roedd e'n hyfryd gweld ein dysgwyr ni yn cymryd rhan a gweld ymateb pawb, ac mae gweld pobl yn gwerthfawrogi nhw yn fantastic.
"Dyma oedd y tro cyntaf i lot ohonom ni weld nhw'n perfformio, ac mae pawb wedi dechrau teimlo'n Nadoligaidd nawr!"
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2024
Mae Adrian yn astudio yn y coleg, ond mae hefyd yn aelod o'r côr.
"Fe wnaethon ni gyrraedd ac roedd nifer o bobl yn aros amdanom ni yn y neuadd," meddai.
"Roedd yn wych gweld pobl yno, ac roedd yn amlwg nad oedd llawer ohonyn nhw wedi gweld côr byddar o'r blaen - ond roedden nhw'n edrych yn hapus, felly ro'n i'n hapus hefyd.
"Yr arwyddo yw'r prif beth i ni wrth berfformio, ond weithiau ry'n ni'n dawnsio rhywfaint, a dwi'n mwynhau hynny."
Ychwanegodd ei fod wedi elwa o'r gefnogaeth sydd ar gael iddo yn y coleg.
"Pan ddes i yma i ddechrau doeddwn i ddim yn gwybod am y gefnogaeth oedd ar gael, a fyddai 'na bobl yn helpu gyda'r iaith arwyddo ac ati - ond yn ffodus, mae'r gefnogaeth wedi bod yno i mi, ac mae hynny'n dda.
"Mae'r rhan fwyaf ar fy nghwrs yn gallu clywed a dwi'n fyddar, ond ry' ni'n cymysgu gyda'n gilydd.
"Rwy'n hapus i ddefnyddio fy llais weithiau, felly dwi'n gwneud llawer o ffrindiau."
Yn ôl Gethin, 12, sy'n aelod o'r côr ers dwy flynedd, mae'n gyfle gwych i wneud ffrindiau a chael hwyl.
"Dyma'r ail waith i mi [wneud cyngerdd Nadolig], mae'n grêt gallu gweld ffrindiau a pherfformio gyda'n gilydd.
"Ry' ni wedi bod yn ymarfer ers tua phythefnos i bedair wythnos, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod yn union beth 'y ni'n fod i'w wneud, a bo' ni ddim yn gwneud camgymeriad ar y noson.
"Mae'n hwyl i ni a dwi'n meddwl bod y gynulleidfa wedi mwynhau hefyd."
Ychwanegodd Justina, aelod arall o'r côr, fod perfformio o flaen cynulleidfa yn brofiad da gan eu bod yn "gwneud i bobl eraill deimlo'n hapus, ac mae'n hwyl".
Un a aeth i wylio'r cyngerdd oedd Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch Cymru, Vikki Howells.
"Mae'r Clwb Byddar yng Ngholeg Gwent yn enghraifft ysbrydoledig o sut mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn ffynnu mewn addysg brif-ffrwd, diolch i'n dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn," meddai.
"Nod y diwygiadau rydym yn eu gweithredu yng Nghymru yw cyflawni'r newid systemig mewn diwylliant ac ymarfer sydd ei angen i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn gallu cyrraedd eu llawn botensial.
"Rwyf mor falch o weld bod awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau yn gweithio'n galed gyda dysgwyr a'u teuluoedd i sicrhau eu bod yn cael y ddarpariaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu, gan weithio gydag asiantaethau allanol a byrddau iechyd."