Anaf pen-glin ACL yn boen 'dwi erioed wedi'i deimlo o'r blaen'

Mae'r anaf ACL wedi bod yn her feddyliol i Jess o Langefni
- Cyhoeddwyd
Wrth chwarae i dîm pêl-droed Llangefni fe wnaeth Jess Jones, 19, o Walchmai ddioddef anaf i'w phen-glin a phoen nad yw "erioed wedi'i deimlo o'r blaen".
Roedd hi wedi rhwygo ei ACL (Anterior Cruciate Ligament) ac yn ddiweddar mae anafiadau ACL ar gynnydd.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio bod diffyg strwythur yn llwybrau perfformiad merched sy'n chwarae pêl-droed yn ffactor blaenllaw.
Yn ôl yr Athro Rhodri Lloyd, sy'n ymchwilio i gryfder a chyhyrau pediatrig ym Mhrifysgol Met Caerdydd, mae angen i'r "buddsoddiad ariannol" mewn chwaraeon menywod "ddilyn y tyfiant" yn y gamp.
Yr anaf yn her feddyliol
Pan rwygodd Jess y cyhyr ACL yn ei phen-glin, dywedodd iddi deimlo "sioc yr holl ffordd" drwy ei choes.
"Es i'r ysbyty a chael sgan MRI. Doeddwn i ddim yn meddwl lot ohono fo ar y pryd.
"Daeth y canlyniadau nôl ychydig ddyddiau wedyn a roeddwn wedi rhwygo'r ACL yn llwyr.
"Tipyn o sioc i fod yn onest."
Dywedodd Jess bod delio gyda'r anaf wedi bod "yn lot" i gymryd yn gorfforol ond mae'n "fwy mentally challenging".
"Dwi di arfer bod ar fy nhraed bob munud - gweithio tu ôl i bar, siarad efo pobl, chwarae pêl-droed a cherdded. Dwi'n berson rili actif.
"Ma just bod yn tŷ bob munud, mae mwy yn mentally challenging nag ydy o yn gorfforol."
- Cyhoeddwyd19 Mehefin
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
Yn ôl ymchwil mae merched hyd at wyth gwaith yn fwy tebygol o anafu eu ACL o'i gymharu â dynion.
Ers mis Awst 2024 mae 14 o chwaraewyr wedi dioddef anaf ACL naill ai yn chwarae pêl-droed i'w clwb neu yn rhyngwladol.
Mae astudiaeth gan Brifysgol Leeds Beckett wedi canfod bod 14 o chwaraewyr yng nghynghrair menywod y 'Super League' wedi dioddef anaf ACL naill ai yn chwarae i'w clwb neu ar ddyletswydd rhyngwladol ers Awst 2024.
Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd chwaraewr rhyngwladol Cymru, Megan Wynne, ei bod wedi siarad â'r prif hyfforddwr Rhian Wilkinson dridiau cyn dioddef ei hail anaf i'w ACL.

Dywed Megan Wynne ei bod yn ymwybodol bellach na fydd ganddi gyfle i gynrychioli Cymru
Fe wnaeth Megan, 32, sy'n chwarae i dîm Awstralia Perth Glory gael yr anaf i'w phen-glin yng ngêm olaf tymor 2025.
Mae sawl chwaraewr, gan gynnwys Laura O'Sullivan a Mayzee Davies, yng ngharfan hŷn merched Cymru hefyd wedi dioddef o'r anaf a methu chwarae yn yr Euros eleni.
Llwyddodd Hannah Cain i wella o ddau anaf ACL i sgorio yn y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon yn y gemau ail gyfle. Llwyddodd Elise Hughes hefyd i oresgyn anaf ACL i gael ei chynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer yr Euros.

Rhwygodd Megan ei ACL tra'n chwarae gêm olaf y tymor yn Awstralia
Dywed Megan Wynne ei bod yn ymwybodol bellach na fydd ganddi gyfle i gynrychioli Cymru.
"Roedd Rhian [Wilkinson] wedi siarad â mi pan symudais i Awstralia
"Dywedodd hi ei bod hi'n edrych ymlaen at gwrdd nôl yng Nghymru.
"Roedd yn gyd-ddigwyddiad rhyfedd," meddai.
"Cyn gynted a ges i'r anaf, dyna oedd yng nghefn fy meddwl i.
"Os oedd yna gyfle, yna roedd e drosodd yn syth."
'Angen am fuddsoddiad ariannol'
Yn ôl yr Athro Rhodri Lloyd o Brifysgol Met Caerdydd mae sawl ffactor risg "nad ydyn ni'n gallu gwneud unrhyw beth amdano".
"Taldra pobl, pa mor eang yw'r pelfis, yr ongl rhwng y pen-glin a'r pelfis," dywedodd.
Aeth ymlaen i esbonio bod angen ffocysu ar ffactorau risg niwrocyhyrol "drwy raglenni atal anafiadau".
"Mae ddim jest y ffaith bod y rhaglenni 'ma ar gael i fenywod ond mae'n bwysig iawn bod y pobl sy'n dysgu a hyfforddi'r rhaglenni 'ma efo'r wybodaeth a expertise yn y maes."

Yn ôl yr Athro Rhodri Lloyd o Brifysgol Met Caerdydd mae sawl ffactor risg "nad ydyn ni'n gallu gwneud unrhyw beth amdano"
Yn ôl ymchwil, gallai rhaglenni paratoi corfforol - sy'n cynnwys arferion cynhesu cyson - leihau'r gyfradd o anaf ACL tua 60%.
Yn ôl Dr Lloyd mae angen i'r "buddsoddiad ariannol" yn chwaraeon menywod "ddilyn y tyfiant yn y gamp".
"Mae'n rhaid 'neud yn siŵr bod ni'n targedu nid jyst yr elite ond hefyd y pobl ar y lefel grassroots.
"Dysgu nhw sut i symud yn dda i trio atal yr anaf yma pan maen nhw'n dod mewn i chwarae."

Roedd yr anaf yn her feddyliol i Jess
Roedd Jess wedi bwriadu cynrychioli Ynys Môn yng Ngemau'r Ynysoedd yr wythnos hon.
"Es i ddwy flynedd yn ôl ag odd o'n massive. Odd o'n opportunity gore dwi erioed 'di ga'l a wedyn i fethu allan arno fo blwyddyn yma - ma fe'n dipyn o siom."
Mae'r anaf hefyd wedi ei hatal rhag astudio yng ngholeg Neosho yn Kansas, America - rhywbeth roedd hi'n anelu ato "ers blynyddoedd", meddai.
"Hynny oedd aim fi i fynd i America a chwarae football."
"Fydd 'na bob tro cyfle arall dwi'n meddwl. Ma' jest angen gweithio'n galed i gal at y cyfleoedd yma."
Ei bwriad nawr, meddai, yw cryfhau ei phen-glin a "cal nôl ar y cae yn iawn ac yn saff".