Ingle yng ngharfan Euro 2025 Cymru er gwaethaf anaf

Mae Sophie Ingle (canol) wedi ennill 144 o gapiau dros Gymru ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2009
- Cyhoeddwyd
Mae Sophie Ingle wedi cael ei chynnwys yng ngharfan merched Cymru ar gyfer Euro 2025, er nad yw wedi chwarae gêm gystadleuol y tymor hwn.
Fe wnaeth y chwaraewr canol cae 33 oed, sydd wedi cael ei rhyddhau gan Chelsea, ddioddef anaf difrifol i'w phen-glin mewn gêm gyfeillgar fis Medi'r llynedd.
Ond mae cyn-gapten Cymru wedi profi ei ffitrwydd mewn sesiynau ymarfer ac wedi ei chynnwys mewn carfan o 23 chwaraewr a gyhoeddwyd gan y prif hyfforddwr Rhian Wilkinson ar gopa'r Wyddfa fore Iau.
Y twrnament yn Y Swistir fydd y tro cyntaf erioed i dîm merched Cymru gystadlu mewn rowndiau terfynol un o'r prif bencampwriaethau.
Pwy sydd yn y garfan? Disgyblion Ysgol Gyfun Gwent Is Coed sy'n egluro
Angharad James fydd yn gapten carfan Cymru sydd hefyd yn cynnwys ei chyd-chwaraewr o Seattle Reign, Jess Fishlock – y chwaraewr 38 mlwydd oed sydd yn dal y record am y nifer o gapiau a goliau dros Gymru.
Mae Hayley Ladd - un arall sydd wedi ennill dros gant o gapiau - wedi ei chynnwys hefyd, ynghyd a'r profiadol Rachel Rowe, Gemma Evans, Kayleigh Barton a Rhiannon Roberts.
Poppy Soper sydd wedi ei dewis fel y trydydd golwr, gyda Olivia Clark a Safia Middleton-Patel hefyd yn y garfan.
Soper yw'r unig chwaraewr yn y garfan sydd eto i ennill cap rhyngwladol.

Roedd Rhian Wilkinson wedi cerdded i gopa'r Wyddfa ar gyfer y cyhoeddiad fore Iau
Mae Wilkinson wedi dewis carfan llawn profiad, sy'n golygu bod chwaraewyr iau megis Mared Griffiths - y ferch 18 oed o Drawsfynydd sy'n chwarae i Manchester United - yn colli allan.
Yn yr ymosod mae lle i Kayleigh Barton, 37, sydd wedi ei dewis er iddi ddod â'i gyrfa fel chwaraewr yn Charlton Athletic i ben i ymgymryd â swydd prif hyfforddwr gyda Saltdean United.
Hannah Cain, Elise Hughes, Carrie Jones a Ffion Morgan yw'r ymosodwyr eraill yn y garfan.

Mae Angharad James a Jess Fishlock yn chwaraewyr profiadol iawn yng nghanol cae Cymru
Yr amddiffynnwr Lily Woodham yw'r trydydd chwaraewr o Seattle yn y garfan tra bod Charlie Estcourt, sydd yn chwarae yn yr Unol Daleithiau i DC Power, hefyd wedi ei dewis.
Roedd Wilkinson eisoes yn gwybod y byddai heb Mayzee Davies, Megan Wynne a Laura O'Sullivan-Jones ar gyfer y gystadleuaeth.
Bydd y dair yn colli'r gystadleuaeth ar ôl dioddef anafiadau pen-glin difrifol.
Fe fydd y garfan yn teithio i Bortiwgal ddydd Sul i baratoi, cyn symud ymlaen i'r Swistir a'u pencadlys yn Weinfelden yng ngogledd y wlad y penwythnos canlynol.

Roedd Rhiannon Roberts ac Olivia Clark - sydd wedi'u henwi yn y garfan - hefyd wedi gwneud eu ffordd i'r copa ar gyfer y cyhoeddiad
"Roedd rhaid i ni sicrhau fod Sophie [Ingle] mewn lle da," meddai Wilkinson, oedd wedi cerdded i gopa'r Wyddfa ar gyfer y cyhoeddiad.
"Yn amlwg mae hi yn parhau ar y llwybr i fod yn gwbl holliach ond mae hi mewn sefyllfa nawr lle bydd hi'n gallu cyfrannu.
"Mae 'na gymysgedd yn y garfan sydd yn fy nghyffroi – mae'n gynrychiolaeth wych o'r wlad.
"Mae 'na enwau sydd ddim ar y rhestr yma sydd wedi rhoi popeth i'w gwlad, a'r galwadau ffôn i dorri eu calonnau yw rhan waethaf fy swydd.
"Gyda fy staff ry'n ni wedi gweithio'n galed i sicrhau fod yr enwau ar y rhestr yno am y rhesymau cywir a'u bod yn iach ac yn barod i gynrychioli eu gwlad."

Sicrhaodd Cymru eu lle yn Euro 2025 ar ôl trechu Gweriniaeth Iwerddon yn ffeinal y gemau ail gyfle
Bydd 16 o dimau yn cystadlu mewn pedwar grŵp o bedwar yn y Swistir.
Yng Ngrŵp D bydd Cymru yn wynebu'r deiliaid Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd – un o'r grwpiau anoddaf y gallen nhw fod wedi'i gael.
Yr Iseldiroedd fydd y gwrthwynebwyr yn y gêm agoriadol yn Lucerne ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf.
Bydd Cymru yn herio Ffrainc ar 9 Gorffennaf yn St Gallen, ac yno hefyd fydd gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Lloegr ar 13 Gorffennaf.
Bydd y timau sydd gorffen yn y ddau safle uchaf ym mhob grŵp yn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.
Y garfan yn llawn
Gôl-geidwaid: Olivia Clark (Caerlŷr), Safia Middleton-Patel (Manchester United), Poppy Soper (Dim clwb)
Amddiffynwyr: Charlie Estcourt (DC Power), Gemma Evans (Lerpwl), Josie Green (Crystal Palace), Hayley Ladd (Everton), Esther Morgan (Sheffield United), Ella Powell (Bristol City), Rhiannon Roberts (Real Betis), Lily Woodham (Seattle Reign)
Canol cae: Jess Fishlock (Seattle Reign), Alice Griffiths (Dim clwb), Ceri Holland (Lerpwl), Sophie Ingle (Dim clwb), Angharad James (Seattle Reign), Lois Joel (Newcastle United), Rachel Rowe (Southampton)
Ymosodwyr: Kayleigh Barton (Dim clwb), Hannah Cain (Caerlŷr), Elise Hughes (Crystal Palace), Carrie Jones (IFK Norrköping), Ffion Morgan (Bristol City)
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl