Cynorthwyydd wedi 'colli rheolaeth' cyn taro disgybl, 4 oed

Ysgol Bryn Deva
  • Cyhoeddwyd

Mae gwrandawiad wedi clywed fod cynorthwyydd dosbarth wedi "colli rheolaeth" cyn iddi daro disgybl pedair oed mewn ysgol.

Roedd Leander Shaw yn gweithio yn Ysgol Bryn Deva yng Nghei Connah, Sir y Fflint ar adeg y digwyddiad ym mis Hydref 2023.

Clywodd y gwrandawiad addasrwydd i ymarfer fod y cynorthwyydd wedi taro llaw y disgybl, wrth ymateb i ymddygiad "heriol" yn ystod gwers.

Fe gollodd Ms Shaw ei swydd wedi'r digwyddiad, gyda'r panel hefyd yn nodi cerydd ar ei chofnod swyddogol.

Roedd Leander Shaw wedi gweithio yn Ysgol Bryn Deva am 14 mlynedd, ac nid oedd wedi wynebu unrhyw gamau disgyblu ar y pryd.

Dywedodd y panel yn y gwrandawiad fod y digwyddiad ar 25 Hydref, 2023 yn un "unigol" ond ei fod yn "fater difrifol".

Daeth y panel i'r casgliad fod Ms Shaw wedi ymateb i "ymddygiad gwael gan y plentyn, gan gynnwys ymgais i'w chicio".

Clywodd y gwrandawiad ei bod wedi gafael yn llaw'r plentyn wrth iddyn nhw geisio ei tharo, a'i bod wedi rhoi slap iddyn nhw ar y fraich arall.

Cafodd Ms Shaw ei gwahardd o'i gwaith ar y diwrnod canlynol.

'Mewn syndod llwyr'

Roedd datganiadau gan athro oedd yn y dosbarth ar y pryd a dirprwy brifathro'r ysgol, yn nodi fod Ms Shaw wedi cynhyrfu a'i bod mewn sioc wedi'r digwyddiad.

Yn ei datganiad ei hun, dywedodd Ms Shaw ei bod mewn "syndod llwyr", ac nad oedd hi'n gallu coelio'r hyn oedd wedi digwydd.

Clywodd y panel fod Leander Shaw wedi bod yn gweithio gyda dosbarth "arbennig o anodd" a oedd "wedi cael eu heffeithio yn negyddol gan y pandemig".

Honnodd Ms Shaw ei bod hi wedi ond wedi cyffwrdd y plentyn yn ysgafn, ond cafodd yr awgrym hwnnw ei wrthod gan ddau aelod o staff.

Ysgol Bryn Deva
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Ms Shaw ei swydd yn yr ysgol wedi'r digwyddiad

"Roedd hwn yn ddigwyddiad unigol, yn enghraifft o golli rheolaeth am eiliad wrth ymateb i ymddygiad heriol," meddai'r panel.

Doedd Ms Shaw ddim yn y gwrandawiad a gafodd ei gynnal rhwng 22 a 24 Medi, a doedd hi heb ddarparu unrhyw dystlythyrau.

Fe gollodd Ms Shaw ei swydd wedi'r digwyddiad dan sylw, ond mae penderfyniad y panel i roi cerydd swyddogol ar ei chofnod yn golygu bod modd iddi barhau i weithio mewn ysgolion yng Nghymru - ond byddai'n rhaid i Ms Shaw sicrhau fod ei chyflogwr yn ymwybodol o'r cerydd hwnnw.

Cafodd Ms Shaw ei holi yn wirfoddol gan yr heddlu, ond daeth swyddogion i'r casgliad nad oedd yn briodol i'w herlyn.

Fe fydd y cerydd yn parhau ar ei chofnod swyddogol fel cynorthwyydd dosbarth am ddwy flynedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig