Rhai staff cymorth ysgol yn ennill llai na'r isafswm cyflog - undeb

Julie Morgan
Disgrifiad o’r llun,

"O'i gymharu â'r athrawon rydyn ni'n cael ein trin fel dinasyddion eilradd," meddai Julie Morgan

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai staff cymorth ysgolion yn ennill llai na'r isafswm cyflog oherwydd y ffordd mae eu cyflogau yn cael eu talu, yn ôl un undeb.

Mae Unsain Cymru yn dweud bod eu tâl yn wahanol yn dibynnu ar ble maen nhw'n byw yng Nghymru.

Mae hefyd yn dweud bod cynorthwywyr dysgu yn rheolaidd yn gorfod dysgu dosbarthiadau pan fydd athrawon ar absenoldebau sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y cynorthwywyr yn rhan werthfawr o'r gweithlu addysg.

Mae athrawon mewn ysgolion yn cael eu cefnogi gan amrywiaeth o staff eraill, gan gynnwys cynorthwywyr addysg, glanhawyr, staff arlwyo a gweithwyr swyddfa.

Ond mae eu cyflogau a'u hamodau gwaith yn wahanol iawn i athrawon.

Mae llawer ar gyflogau isel iawn, gyda rhai'n gorfod cymryd ail swydd i gael dau ben llinyn ynghyd.

'Dinasyddion eilradd, neu skivvy'

Mae gan Julie Morgan o Ben-y-bont ar Ogwr 35 mlynedd o brofiad fel swyddog cymorth dysgu neu gynorthwyydd addysgu.

Mae hi hefyd yn gynrychiolydd undeb ar gyfer yr ardal, felly mae hi'n ymwybodol iawn o'r heriau maen nhw'n eu hwynebu, yn enwedig cael eu talu llawer llai na'r athrawon maen nhw'n gweithio ochr yn ochr â nhw.

"Roedden ni'n deulu â dau gar ond roedd yn rhaid i ni gael gwared ar un o'n ceir oherwydd o'n ni ddim yn gallu fforddio'r ddau.

"Bu'n rhaid i ni dynhau ein gwregys a bod yn fwy gofalus. Mae popeth wedi mynd i fyny.

"O'i gymharu â'r athrawon rydyn ni'n cael ein trin fel dinasyddion eilradd, weithiau fel skivvy."

Rosie Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau sy'n gorfod defnyddio banciau bwyd yn yr ysgol i fwydo eu teuluoedd, meddai Rosie Lewis

Mae undeb Julie, Unsain Cymru, yn dweud yn wahanol i athrawon, fod cynorthwywyr addysgu yn cael eu talu am weithio naw mis o'r flwyddyn yn unig oherwydd gwyliau ysgol - sy'n golygu bod eu naw mis o gyflog yn cael ei ymestyn dros 12 mis.

Mae llawer ar gontractau tymor penodol, felly does 'na ddim unrhyw ddiogelwch swydd, ac mae cyfraddau cyflog yn wahanol ar draws cynghorau Cymru, felly mae pobl mewn gwahanol ardaloedd yn cael eu talu llai nag mewn eraill.

Mae Rosie Lewis o Unsain Cymru yn dweud bod cyflogau isel hirdymor yn golygu bod rhai yn ennill llai na'r isafswm cyflog, ac mae wedi arwain at galedi sylweddol.

"Ni'n gwbod am aelodau sy'n gorfod defnyddio banciau bwyd yn yr ysgol i allu rhoi bwyd ar y bwrdd i'w plant.

"Rydyn ni'n gwybod am lawer o ysgolion, cwpl yng Nghaerdydd er enghraifft, lle mae ganddyn nhw fanc bwyd penodol ar gyfer y staff hynny sy'n gweithio yn yr ysgol.

"Nawr, i fod mewn tlodi gwaith yn y ffordd honno… mae'n sefyllfa ofnadwy i'n haelodau fod ynddi."

'Y bwlch yn mynd yn fwy ac yn fwy'

Mae Julie Morgan yn cytuno: "Pan oedd cynnydd cyflog, ga'th athrawon gynnig o 5.5%, ond dim ond  2.3% i staff cymorth.

"Mae athrawon eisoes yn cael eu talu llawer mwy na ni, felly mae'r bwlch rhyngom ni yn mynd yn fwy ac yn fwy, ac eto ni'n gweithio mor agos gyda'n gilydd."

Ond efallai mai'r mater mwyaf annisgwyl yw bod gofyn i gynorthwywyr addysgu gymryd dosbarthiadau nid yn unig mewn sefyllfaoedd annisgwyl, ond yn ystod absenoldebau sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw.

Meddai Rosie Lewis: "Mae ein haelodau'n aml yn gweithio mewn ystafell ddosbarth gyda phlant yn rheolaidd iawn, wedi'u hamserlennu, pan fyddant ar lefel cynorthwyydd addysgu, lle nad yw hyd yn oed yn ganiataol gwneud hynny am gyfnod byr, ond maen nhw'n gweithio'n rheolaidd iawn gyda phlant, ac yn eu haddysgu pan nad yw hynny mewn gwirionedd yn rhan o'u rôl."

Wrth ymateb dywedodd Cefin Campbell, llefarydd Addysg Plaid Cymru: "Mae ein cymorthyddion addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth addysgu a siapio dyfodol ein pobl ifanc - nid yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud digon i ddangos bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi, na pha mor hanfodol yw denu'r staff cymorth gorau i'r sector gyda chyflog ac amodau da."

Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Lle mae problemau'n codi, rydym wedi ymrwymo i weithio gydag undebau llafur a staff i ddatrys y problemau hyn a dysgu ohonynt hefyd."

Dywed Llywodraeth Cymru: "Mae cynorthwywyr addysgu yn rhan allweddol a gwerthfawr o'n gweithlu addysg ac rydym am sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu.

"Bydd y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg yn nodi'r camau nesaf i gyflawni hyn gan gynnwys gwella telerau ac amodau a gweithio gyda'n partneriaid ar Gorff Negodi Staff Cymorth Ysgolion i Gymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig