Gyrrwr yn pledio'n euog i ladd merch, 15, oedd yn croesi'r ffordd

Bu farw Keely Morgan, 15, ar ôl cael ei tharo gan gar ar Heol Trelái, Caerdydd, ar 1 Mai 2023
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, ar ôl taro merch 15 oed wrth iddi groesi ffordd yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth cerbyd Vauxhall Astra Christopher West, 42, daro Keely Morgan, 15, ar Heol Trelái yn ardal Caerau ar 1 Mai 2023.
Bu farw yn y fan a'r lle, yn dilyn y gwrthdrawiad toc wedi 21:30 y noson honno.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd bod amcangyfrif i West fod yn teithio rhwng 32-43mya adeg y gwrthdrawiad, ar ffordd gyda therfyn 30mya.
Mewn gwrandawiad byr ddydd Mawrth, plediodd West, o ardal Trelái, yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, a gyrru heb yswiriant.
Clywodd y llys nad oedd profion wedi dangos unrhyw alcohol na chyffuriau yn ei system, ac nad oedd nam mecanyddol ar y car.

Cafodd Keely ei tharo wrth gerdded ar y groesfan yma ar Heol Trelái yn ardal Caerau, Caerdydd
Roedd Keely Morgan yn croesi'r ffordd, oedd wedi ei goleuo'n dda gydag ynys groesi yn y canol, pan gafodd ei tharo can gerbyd West.
Yn ôl yr erlynydd, Sarah Harding, fe wnaeth cyflymder West, a'i "fethiant i leihau'r cyflymder hwnnw yn briodol" wrth gyrraedd y groesfan, gyfrannu at y gwrthdrawiad.
"Roedd y modd y bu'r dyn yn gyrru cyn y gwrthdrawiad... yn bryderus," meddai.
Clywodd y llys fod gan West deithwyr ifanc yn y car adeg y gwrthdrawiad, oedd wedi rhoi tystiolaeth am y modd yr oedd yn gyrru.
Roedd West hefyd wedi tynnu 'blwch du' o'i gar, meddai Ms Harding, oedd yn golygu bod ei bolisi yswiriant yn annilys.
Daeth y barnwr Charlotte Murphy i'r casgliad bod y troseddau'n "rhy ddifrifol" i ynadon ddelio â nhw, a bydd West nawr yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 6 Mai.
Cafodd West ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, gyda'r barnwr yn dweud wrtho am beidio cysylltu â theulu Keely Morgan, na mynd i ardaloedd penodol yng Nghaerau.
Mae West hefyd wedi'i wahardd rhag gyrru am y tro, nes ei fod yn cael ei ddedfrydu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
- Cyhoeddwyd4 Mai 2023
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023