Ymchwilio i hiliaeth honedig mewn gêm rygbi dan-14 yn y gogledd

Y gred yw bod y sylwadau honedig wedi eu gwneud tuag at chwaraewyr Dinbych, yn ystod y gêm yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i ddigwyddiad hiliol honedig mewn gêm rygbi dan-14 oed yng ngogledd Cymru.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi derbyn adroddiad am drosedd yn ymwneud â chasineb, yn dilyn gêm ieuenctid rhwng clybiau rygbi Dinbych a Wrecsam ddydd Sul.
Y gred yw bod y sylwadau honedig wedi eu gwneud tuag at chwaraewyr Dinbych, yn ystod y gêm yn Wrecsam.
Mae llefarydd ar ran Clwb Rygbi Wrecsam wedi dweud nad ydyn nhw'n goddef yr ymddygiad honedig, a'u bod yn cynnal eu hymchwiliad eu hunain.
Mae Clwb Rygbi Dinbych wedi cael cais am sylw.
'Cymryd y mater yn ddifrifol iawn'
Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn "ymwybodol o ddigwyddiad honedig o hiliaeth" yn ystod y gêm", a'u bod yn "cymryd y mater yn ddifrifol iawn".
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn disgwyl i'r gŵyn lawn gael ei chyflwyno er mwyn iddyn nhw ddeall yr amgylchiadau'n llawn.
"Fe fyddwn bob amser yn gweithredu ar wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth neu fwlio sy'n ymwneud â nodweddion sy'n cael eu gwarchod, er mwyn sicrhau bod rygbi Cymru yn gynhwysol ac yn ddiogel i bawb."
Dywedodd Clwb Rygbi Wrecsam y bydd yn "cydweithio â Heddlu Gogledd Cymru yn ôl yr angen".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.