Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth dyn, 54, yn y Coed Duon

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Perth Court tua 01:15 fore Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth dyn 54 oed yn dilyn digwyddiad yn y Coed Duon fore Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yn ardal Perth Court y dref tua 01:15 yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch, ac fe gafodd dyn ei ganfod yno'n anymwybodol.
Fe gadarnhaodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod y dyn wedi marw ar y safle, a bod ei deulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Cafodd dyn 39 oed ei arestio ar amheuaeth o'i lofruddio, ond mae bellach wedi ei ryddhau o'r ddalfa yn ddi-gyhuddiad.
Yn ôl y ditectif uwch-arolygydd, Michelle Chaplin o Heddlu Gwent, mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ar hyn o bryd ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.