Cynnydd costau parcio yn 'torri calonnau' busnesau Aberteifi

Mae costau ym meysydd parcio'r cyngor wedi cynyddu yn nhref Aberteifi i £4 am ddwy awr
- Cyhoeddwyd
Mae dicter yn Aberteifi am gynnydd sylweddol mewn costau ym meysydd parcio y cyngor sir.
Erbyn hyn, mae'n costio £4 i barcio am ddwy awr, a dyw hi ddim yn bosib parcio mwyach am lai na dwy awr yn un o feysydd parcio'r sir yn y dref.
Dywedodd un busnes bod y cynnydd yn "torri calonnau" siopau lleol.
Yn ôl Cyngor Ceredigion y bwriad yw "symleiddio a rhesymoli ffioedd" ac mae'r costau parcio newydd wedi bod yn destun "ymgynghoriad cyhoeddus llawn" y llynedd.
Roedd ystafell Radley yn Neuadd y dref yn llawn nos Iau ar gyfer cyfarfod arbennig o fusnesau oedd yn bryderus am gynnydd o 38% yn y gost o barcio am ddwy awr ym meysydd parcio'r cyngor.
Yn ystod y cyfarfod, fe alwodd prif weithredwr Menter Aberteifi, Julian Beynon-Lewis ar fasnachwyr i gysylltu yn unigol gyda'r cyngor gyda chwynion am y cynnydd mewn ffioedd.
Mae masnachwyr hefyd yn bwriadu casglu gwybodaeth gan gwsmeriaid trwy gyfrwng holiaduron ynglŷn ag effaith y cynnydd mewn costau parcio.
'Cyngor ddim yn meddwl am fusnesau'
Mae dau faes parcio arhosiad byr yn y dref, a phump o feysydd arhosiad hir sydd yn cael eu rhedeg gan y cyngor.
Ym maes parcio Sgwar Cae Glas tu ôl i Neuadd y Dref, mae hi bellach yn costio £4 i barcio am ddwy awr, ble roedd hi yn costio £2.90 y llynedd.
Mae hynny yn cyfateb i gynnydd o 38%.

Fe fydd Julian Beynon-Lewis, Prif Weithredwr Menter Aberteifi, yn mynychu'r cyfarfod yn Neuadd y Dref
Yn ôl Julian Beynon-Lewis, Prif Weithredwr Menter Aberteifi, sydd yn gyfrifol am redeg y farchnad, mae'r cynnydd mewn prisiau parcio wedi cael "effaith enfawr".
"Mae'r cynnydd diweddaraf wedi golygu taw'r lleiafswm fedrwch chi dalu yw £4. Dyw hi ddim yn bosib talu am awr mwyach.
"Yng Nghaerfyrddin, galla i dalu i barcio am awr am 70 ceiniog. Yn Sir Benfro, mae e rhwng £1 ac £1.50. Ym Mhowys, mae'n £1.40.
"Mae yna ymateb negyddol enfawr wedi bod. Mae'r busnesau yn gandryll achos mae'n mynd i effeithio ar eu busnesau.
"Ond mae aelodau'r cyhoedd hefyd yn dweud wrthym na fyddan nhw yn dod i'r dref eto oherwydd mae'n rhy ddrud.
"Os chi'n mynd i alw yn y dref i brynu torth o fara neu i gasglu presgripsiwn, bydd rhaid i chi dalu £4 i alw yn Aberteifi.
"Beth chi'n mynd wneud? Chi'n mynd i fynd i rywle arall."

Mae Dafydd Davies o gwmni cigyddion Dewi James hefyd yn bryderus am y ffioedd parcio newydd
Mae Dafydd Davies o gigyddion Dewi James hefyd yn anhapus gyda'r costau newydd: "Mae e mas o un sens.
"Mae'n un ffordd amlwg bod y council lleol ddim yn edrych ar ôl yr high street, a ddim yn meddwl llawer am fusnesau lleol sydd wedi codi enw Aberteifi yn ddiweddar i ddenu pobl mawr i mewn i'r dref.
"Mae'n torri calon busnesau fel sydd gyda ni 'ma. Dwi ddim yn hapus o gwbl."

Dywedodd Mr Davies bod agoriad Home Bargains yr wythnos ddiwethaf, ar gyrion y dref, sydd yn cynnig parcio am ddim i bron i 200 o geir am ddwy awr, yn bryder mawr i fusnesau.
"Ni wastad wedi bod yr independent high steet, ac mae'r ffaith ei fod e wedi cael y planning ac wedi cael ei adael i gael ei godi yn Aberteifi hefyd yn bach o gic."

Mae nifer o lefydd gwag ym meysydd parcio'r cyngor yn y dref
Dywedodd Cyngor Ceredigion mai nod y drefn newydd oedd "symleiddio a rhesymoli ffioedd" a sicrhau bod y cyngor yn medru paratoi cyllideb gytbwys.
Ychwanegodd llefarydd bod "y cynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ddiwedd 2024" a gafodd eu cefnogi gan y cabinet.
"Roedd y cynigion hyn yn cynnwys cynnig gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus yn caniatáu i ddeiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim ym mhob maes parcio Talu ac Arddangos y Cyngor, arweiniodd hwn at gynnydd o 50c i bob elfen unigol o'r strwythur codi tâl er mwyn gwireddu'r disgwyliad incwm."

Mae Jacqui Barker wedi llunio deiseb arlein yn galw am gynnig awr o barcio am ddim
Mae menyw fusnes leol, Jacqui Barker, wedi sefydlu deiseb arlein yn galw am awr o barcio am ddim yn Aberteifi, ac mae tua 2,000 wedi arwyddo i ddangos eu cefnogaeth
"Fe hoffwn ni gael awr o barcio am ddim ac fe fyddai hynny yn rhoi cymorth mawr i bobl lleol.
"Dyw pobl methu picio mewn i'r dref mwyach. Mae'n chwerthinllyd. Bydd pobl ddim yn dod."

Mae Philippa Noble yn aelod o Gyngor Tref Aberteifi ac fe fydd hi'n mynychu'r cyfarfod yn neuadd y dref
Mae Philippa Noble yn gynghorydd tref yn Aberteifi ac yn berchen ar siop nwyddau pysgota ac yn dweud y bydd llai o bobl yn galw yn y siopau lleol.
"Mae Aberteifi wedi ymfalchio yn ei busnesau bach ac wedi creu enw da mewn papurau cenedlaethol. A wedyn mae hyn yn digwydd.
"Mae siopau tu allan i'r dref yn cynnig parcio am ddim, ond dyw nhw ddim i fod yn cystadlu yn ein herbyn ni. Maen nhw fod i wella'r dref.
"Sut ydym ni yn ddenu pobl i ddod i'r dref i brynu peint o laeth neu torth o fara, pan mae'n costio £4 i barcio?
"Mae'r cyngor yn mynd i golli refeniw drwy wneud hyn.
"Dwi wedi gweld lluniau dron o faes parcio Home Bargains ac mae'n llawn. Mae ein maes parcio ni yn wag mewn cymhariaeth."

Mae siop newydd Home Bargains, wnaeth agor ddiwedd Mai, yn cynnig parcio am ddim i gwsmeriaid
Yn ôl Maer Aberteifi, Olwen Davies, mae angen "edrych mewn i bopeth" wrth ystyried y ffordd ymlaen.
"Mae rhywun â bathodyn glas yn medru parcio am ddim sydd yn fantais ond fi'n credu yn bersonol mae'n rhwystredig i bobl lleol sydd am ddod i'r dref a sydd moyn stopio am hanner awr i fynd i'r cigydd neu'r chemist.
"Mae'n ddrud wedyn ni ac yn rhwystredig."
Yn ôl Cyngor Ceredigion, mae ffioedd parcio yn "anhebygol" o gael eu codi neu eu hadolygu tan adroddiad y flwyddyn ariannol 2027/28.
Mae mudiad 4CG hefyd yn rhedeg meysydd parcio annibynol yn Aberteifi sydd yn cynnig prisiau parcio dipyn rhatach. Mae modd defnyddio maes parcio Chancery Lane am 50 ceiniog am hanner awr neu £1 am awr.