'Gwaith atgyweirio brys' yn cau rhan o'r A5 ger Betws-y-coed

Mae cerbydau nwyddau trwm yn wynebu dargyferiaid trwy'r Wyddgrug
- Cyhoeddwyd
Mae'r A5 rhwng Betws-y-coed a Phentrefoelas ar gau i'r ddau gyfeiriad er mwyn cynnal "gwaith atgyweirio brys".
Er bod disgwyl i'r ffordd ail-agor am 22:00 nos Fercher, mae'r gwaith yn golygu bod cerbydau nwyddau trwm yn wynebu dargyfeiriad trwy'r Wyddgrug ac ar hyd yr A55.
Yn ôl Traffig Cymru, mae "pob ymdrech" yn cael ei wneud i ailagor y ffordd "yn gynt os yn bosibl".
Mae Traffig Cymru yn pwysleisio fod y gwaith "yn hanfodol" gan fod angen "atgyweirio rhan o'r briffordd sydd wedi cwympo."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates fod y ffordd ar gau er mwyn cynnal "gwaith brys yn cael ei wneud i atgyweirio cwlfer sydd wedi'i ddifrodi."
Ychwanegodd fod Asiant Cefnffyrdd Gogledd Cymru yn "gweithio i ddatrys y mater ar frys ac y bydd diweddariadau yn cael eu darparu gan Traffig Cymru."
Yn y cyfamser, mae'r A470 rhwng Maenan a Tal-Y-Cafn hefyd ar gau i'r ddau gyfeiriad yn Nolgarrog tan ddydd Gwener 31 Ionawr.
Mae Dŵr Cymru yn cynnal gwaith atgyweirio brys yn yr ardal, gyda cherbydau yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr A55.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2024