Ailagor un o brif ffyrdd Gwynedd ar ôl tirlithriad

Traffig CymruFfynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Traffig Cymru fod yr A487 rhwng Corris a'r A470 yn Cross Foxes wedi ailagor

  • Cyhoeddwyd

Mae'r brif ffordd rhwng Machynlleth a Dolgellau wedi ei hailagor ar ôl cyfnod o fod ar gau, yn ôl Traffig Cymru.

Bu'n rhaid cau'r A487 rhwng Corris a Minffordd am gyfnod fore Sadwrn 7 Rhagfyr ar ôl tirlithriad.

Ond oherwydd pryderon am "dir ansefydlog" uwchben y ffordd, cafodd ei chau eto rai dyddiau'n ddiweddarach.

Ganol Rhagfyr fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod disgwyl i'r ffordd fod ar gau tan y flwyddyn newydd.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Traffig Cymru fod yr A487 rhwng Corris a'r A470 yn Cross Foxes wedi ailagor.

Maen nhw'n nodi fod "mesurau dros dro yn cynnwys goleuadau traffig, rhwystrau a system dal malurion i gadw pawb yn ddiogel".

Pynciau cysylltiedig