Person yn yr ysbyty ar ôl i gwch daro creigiau ger arfordir Môn

Hofrennydd yn achub pobl o'r morFfynhonnell y llun, Rhodri Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr hwyliwr ei achub gan fad achub cyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i ddigwyddiad oddi ar arfordir Ynys Môn brynhawn Mawrth yn dilyn adroddiadau i gwch daro creigiau.

Cafodd yr unigolyn oedd ar fwrdd y cwch ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau eu bod wedi ymateb i adroddiadau o gwch yn taro'r lan yn ardal Ynysoedd y Moelrhoniaid (The Skerries) oddi ar arfordir Ynys Môn tua 16:00.

Bu Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Cemaes, bad achub RNLI Caergybi a chychod a oedd gerllaw yn rhan o'r ymateb.

Cafodd yr unigolyn ei achub o'r dŵr gan fad achub cyn ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.

Y gred yw bod y cwch hwylio, a oedd yn 8 metr o hyd, wedi ei ddinistrio neu wedi suddo.

Pynciau cysylltiedig