Gofal i bobl hŷn yng Ngwynedd 'ddim yn gynaliadwy'

Gofalwr yn rhoi cymorth i ddynes oedrannusFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw y bydd o leiaf 5,000 yn fwy o bobl dros 65 oed yn byw yng Ngwynedd erbyn 2043

  • Cyhoeddwyd

Dydi darparu gofal cymdeithasol i bobl hŷn yng Ngwynedd "ddim yn hyfyw na'n gynaliadwy," yn ôl adroddiad newydd.

Mae adroddiad 'Llechen Lan' gan Gyngor Gwynedd, dolen allanol wedi'i ddisgrifio fel un o'r darnau o waith ymchwil mwyaf trylwyr erioed i gyflwr y sector gofal yn y sir.

Mae'n rhagweld y bydd galw am ofal yn cynyddu 56% ymhen 20 mlynedd, a'r nifer ar restrau aros yn codi tua chwe gwaith a hanner yn y sir.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r nod o hyd yw creu "Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru".

Tra bod yr heriau sy'n wynebu'r sector gofal ledled Cymru yn hawlio'r penawdau, mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at sut system gofal fyddai'n bodoli mewn 20 mlynedd heb unrhyw newid ac ymyrraeth.

Un o'r heriau mwyaf, yn ôl Cyngor Gwynedd, yw dadboblogi a phoblogaeth yn heneiddio.

Mae'r cyngor yn rhagdybio y bydd o leiaf 5,000 yn fwy o bobl dros 65 oed yn byw yng Ngwynedd erbyn y flwyddyn 2043.

Ond y disgwyl yw y bydd nifer y bobl oedran gwaith yn cynyddu oddeutu 1,000 yn unig yn yr un cyfnod.

'Adnoddau annigonol'

Mae'r cyfrifiad hefyd yn dangos bod Gwynedd wedi colli oddeutu 42 o bobl oed gwaith pob mis ers degawd (5,000 o bobl i gyd).

"Un ffordd neu'r llall, ni fydd y boblogaeth oed gwaith yn tyfu ar yr un raddfa â'r twf tebygol yn y boblogaeth hŷn fydd angen gofal," meddai'r adroddiad.

"Nid oes adnoddau dynol nac adnoddau ariannol digonol i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i bobl hŷn yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

"O'r herwydd, nid yw'r sefyllfa darparu gofal cymdeithasol i bobl hŷn yng Ngwynedd yn hyfyw nac yn gynaliadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae June Davies yn credu bod cyflogau isel yn golygu nad yw pobl ifanc yn ystyried gyrfa yn y maes

Mae June Davies wedi bod yn darparu gofal yn y gymuned yn ardal Abersoch ers degawd.

Er ei bod wrth ei bodd yn teithio o gwmpas yr ardal ac yn gofalu am bobl hŷn, mae'n dweud bod nifer o heriau sy'n atal pobl newydd rhag dod mewn i'r sector.

"Mae angen mwy o gyflog i ddenu mwy o ofalwyr i mewn," meddai.

"Ma'n job braf iawn… dwi'n mwynhau a 'swn i'n gobeithio 'sa pobl eraill yn hefyd, ond ma' rhaid iddyn nhw gael rhywbeth arall i dynnu nhw mewn.

"Gwell cyflog? Dwi'm yn gwybod."

'Angen buddsoddiad mawr'

Yn 99 oed, mae'r Parchedig Cledwyn Griffith o Fynytho yn un o'r rhai sy'n derbyn gofal gan June, ac yn ôl ei ferch, Nerys Smits, mae cymorth y gwasanaeth yn rhoi "tawelwch meddwl".

"Maen nhw'n cefnogi ni fel teulu ac yn cadw dad adra yn ei gynefin ei hun mor hir â sy'n bosib," meddai.

"Ond mae'r system angen buddsoddiad mawr ac maen nhw angen edrych ar y system yn gyffredinol a sut mae'n gweithio o'r ysbyty i'r gymuned."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Dilwyn Morgan yn credu fod yr adroddiad yn cynnig gobaith hefyd

Gyda'r adroddiad yn rhybuddio oni bai bod newid i'r ffordd mae gofal yn cael ei ddarparu y bydd mwy yn methu ei dderbyn, mae'r cynghorydd Dilwyn Morgan yn dweud fod yr adroddiad hefyd yn cynnig gobaith.

"Da' ni'n cael ein gwthio i feddwl am ofal mewn ffordd wahanol," meddai.

"Be' da' ni eisiau yn wirioneddol ydy cadw pobl adra cyn hired ag sy'n bosib."

Er hynny, mae'n cydnabod yr heriau o ran staffio a chyflogau.

"Mae angen safoni'r cyflogau efo iechyd," meddai.

"Er bo' ni wedi codi cyflogau o fewn y flwyddyn mae angen edrych eto, ac mae'n fater i Lywodraeth Cymru edrych arno eto a sylweddoli pa mor bwysig ydy gofal.

"Dwi'n meddwl 'sa nhw'n cael gofal yn iawn yna 'sa 'na ddim gymaint o broblemau yn ein hysbytai."

'Cydnabod y pwysau'n sy'n wynebu'r sector'

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r nod o hyd ydy "creu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru".

"Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau pwysig fel sefydlu Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth," meddai.

"Rydyn i'n cydnabod y pwysau'n sy'n wynebu'r sector... a bydd cynnydd o £253m yn y grant cynnal refeniw 2025-26 i adlewyrchu'r pwysau ychwanegol y mae cynghorau'n ei wynebu.

"Ein ffocws yw sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu'n barhaus."