Dau draean o bobl wedi cael brechiad atgyfnerthu Covid

brechlyn CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros naw miliwn dos o frechlyn Covid-19 wedi cael eu rhoi yng Nghymru bellach ers dechrau'r pandemig

  • Cyhoeddwyd

Mae bron i ddwy ran o dair o bobl sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu Covid y gwanwyn wedi cael eu brechu, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd tua 65%, neu bron i 273,000 o unigolion, wedi derbyn y pigiad atgyfnerthu erbyn 22 Mehefin o blith cyfanswm o 415,461 sy'n gymwys.

Gwelwyd canran hyd yn oed yn uwch ymhlith preswylwyr cartrefi gofal, gydag ychydig dros 14,000 - neu 76% - yn cael eu brechu.

Mae rhaglen pigiadau atgyfnerthu Covid-19 y gwanwyn yn cael ei chynnal rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin.

'Byd o wahaniaeth'

Fe wnaeth y ffigyrau ddangos bod mwy o ddynion dros 75 oed, a'r rheiny ag imiwnedd gwan, wedi eu brechu na menywod, sydd ychydig yn wahanol i'r patrwm mewn rhaglenni brechu cynharach.

Nodwyd hefyd fod y niferoedd sydd wedi eu brechu yn is ymysg pobl sy'n byw mewn ardaloedd llai breintiedig.

Roedd llai o bobl dros 75 hefyd wedi derbyn y pigiad mewn ardaloedd gwledig o'i gymharu ag ardaloedd trefol.

O gymharu niferoedd ar hyd a lled Cymru, mae'r ffigyrau yn dangos darlun amrywiol.

Dim ond 53.5% o bobl cymwys yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda oedd wedi cael brechiad atgyfnerthu, ond roedd hynny'n codi i 71.7% ym Mhowys.

Disgrifiad,

Dr Alun Edwards oedd un o'r bobl gyntaf yng Nghymru i gael y brechlyn Covid 'nôl ym mis Rhagfyr 2020

Un o'r rhai cyntaf i gael brechlyn Covid-19 yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2020 oedd Dr Alun Edwards o Feddygfa Tŷ Bryn yn Nhrethomas ger Caerffili.

"Ma' brechu wedi gwneud byd o wahaniaeth," meddai.

"Dyw e ddim yn stopio pobl rhag cael Covid, ond dyw pobl ddim 'di bod yn marw fel welson ni yn 2020.

"Mae e wedi gwneud gwahaniaeth enfawr."

Covid 'dal yn fygythiad'

Wrth edrych ymlaen at yr hydref mae'n cyfaddef ei fod yn bosibilrwydd y bydd mwy o achosion Covid, ac felly'n dweud bod angen paratoi.

"Mae angen i ni 'neud cynlluniau ar gyfer hynna, a gobeithio fod y gwasanaeth iechyd lleol yn paratoi, a dyna pam bod brechu'n bwysig," meddai Dr Edwards.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod naw miliwn dos o frechlyn Covid-19 wedi eu rhoi yng Nghymru ers 2020.

"Mae pawb sydd yn gymwys yng Nghymru wedi cael cynnig pigiad atgyfnerthu fel rhan o raglen y gwanwyn," meddai.

"Mae nifer y rhai dros 75 oed, a'r rheiny mewn cartrefi gofal sydd wedi derbyn y pigiad, wedi parhau yn gryf."

Ond fe rybuddiodd y llywodraeth fod Covid yn dal i fod yn fygythiad, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, ac y dylai pobl "gymryd camau i amddiffyn eu hunain, gan gynnwys cael eu brechu a derbyn pigiad atgyfnerthu".