YesCymru yn gwrthod ymbellhau rhag band dadleuol

Dj Provaí (aelod o Kneecap)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd neges fer gan un o aelodau'r band Kneecap ei chwarae ar sgrin yn rali ddiweddaraf YesCymru ac AUOB (All Under One Banner) yn y Barri ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae mudiad YesCymru wedi gwrthod y cyfle i ymbellhau rhag band dadleuol wrth i fideo ddod i'r golwg lle mae'n ymddangos bod un o'r aelodau yn annog torf i ladd aelod seneddol.

Cafodd neges fer gan un o aelodau'r band Kneecap ei chwarae ar sgrin yn rali ddiweddaraf YesCymru ac AUOB (All Under One Banner) yn y Barri ddydd Sadwrn.

Ers hynny, mae fideo wedi dod i'r golwg lle mae'n ymddangos bod un o aelodau'r band yn dweud ar lwyfan mewn cyngerdd "The only good Tory is a dead Tory...kill your local MP."

Mae heddlu'r Met wedi cadarnhau eu bod nhw'n asesu dwy fideo o'r band, ac mewn datganiad dywedodd llefarydd ar eu rhan:

"Fe'm gwnaed ni'n ymwybodol o fideo ar Ebrill 22, gyda'r gred ei bod yn deillio o Dachwedd 2024, sydd bellach wedi ei chyfeirio at yr Uned Gyfeirio Gwrth Derfysgaeth i'w asesu ac er mwyn penderfynu a oes angen ymchwiliad heddlu pellach iddi."

"Ry'n ni hefyd wedi dod yn ymwybodol o fideo arall. Y gred yw bod honno o ddigwyddiad yn Nhachwedd 2023."

Rali YesCymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd mewn digwyddiad YesCymru gafodd ei drefnu gan YesCymru a AUOB Cymru yn y Barri ddydd Sadwrn

Mewn fideo arall, mae'n ymddangos bod un o aelodau'r band yn cyhoeddi "up Hamas, up Hezbollah" o lwyfan.

Mae Hamas ac Hezbollah wedi eu gwahardd yn y Deyrnas Unedig ac mae eu cefnogi nhw'n gyhoeddus yn anghyfreithlon.

Yn ôl cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, mae'n "annerbyniol" i'r band gael llwyfan yn y rali annibyniaeth ddydd Sadwrn.

Dywedodd wrth Newyddion S4C na "allwn ni dderbyn y math yna o iaith, o feddwl beth rydyn ni wedi'i weld yn digwydd i ASau ar draws y sbectrwm gwleidyddol."

"Mae'n anffodus iawn i hyn ddigwydd ar ddydd Sadwrn. Mae cael cefnogaeth y math yma o grŵp yn amlygu wyneb hyll cenedlaetholdeb Cymreig."

"Mae'n annerbyniol. Wrth beidio beirniadu'r sylwadau a phellhau eu hunain rhagddyn nhw....yn anffodus, mae'r trefnwyr yn caniatáu i'r sylwadau ennill eu plwyf."

Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Andrew RT Davies, mae'n "annerbyniol" i'r band gael llwyfan yn y rali annibyniaeth ddydd Sadwrn

Mewn ymateb i sylwadau Andrew RT Davies, dywedodd YesCymru ac AUOB mewn datganiad ar y cyd:

"Roedd yr awyrgylch yn gadarnhaol ac yn ddathliad drwyddi draw, gan adlewyrchu ysbryd heddychlon a chynhwysol yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru."

"Yn ystod y digwyddiad 5 awr, dangoswyd neges fideo 10 eiliad wedi'i recordio ymlaen llaw gan aelod o'r grŵp cerddorol Kneecap ar y sgrin."

"Roedd y fideo yn cynnwys neges o gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru, canolbwynt y digwyddiad, ac roedd yn rhan o segment yn cynnwys sawl neges undod gan fudiadau ledled Ewrop."

"Ar yr adeg y dangoswyd y fideo, nid oedd y trefnwyr yn ymwybodol o unrhyw ymchwiliad heddlu posibl yn ymwneud â'r grŵp cerddorol."

"Adroddodd y BBC gyntaf ar yr ymchwiliad ddydd Sul, y diwrnod ar ôl ein digwyddiad ac wrth gwrs ni allwn wneud sylwadau ar unrhyw ymchwiliad heddlu yn ymwneud â'r grŵp cerddorol."

Fe ofynnodd Newyddion S4C a oedd y mudiadau am ymbellhau rhag y band nawr eu bod nhw'n ymwybodol o'r sylwadau.

Ond dywedodd llefarydd ar ran YesCymru nad oedd ganddyn nhw sylw pellach i'w wneud.

Pynciau cysylltiedig