Beirniadu Plaid Cymru wedi neges grŵp hip-hop yn rali YesCymru

Mae Kneecap yn fand hip-hop o gymuned gorllewin BelfastFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kneecap yn fand hip-hop o gymuned gorllewin Belfast

  • Cyhoeddwyd

Mae gwleidydd Ceidwadol amlwg wedi beirniadu Plaid Cymru am fynd i rali lle cafodd neges gan y grŵp hip-hop Gwyddelig, Kneecap ei darlledu.

Mae'r grŵp wedi wynebu cyhuddiadau o gefnogi terfysgaeth yn sgil eu beirniadaeth o ymgyrch filwrol Israel yn Gaza.

Fe gafodd y neges gan un aelod, DJ Próvaí, ei darlledu yn ystod rali YesCymru yn Y Barri ddydd Sadwrn.

Ynddo fe ddywedodd ei fod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru ac yn dymuno'n dda i'r digwyddiad.

"Gobeithio y daw annibyniaeth yn fuan", meddai, gan orffen trwy ddweud "Cymru Rydd" yn Gymraeg.

Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn "condemnio'n llwyr unrhyw sylwadau all fod yn gefnogol o grwpiau terfysgol".

Ers y digwyddiad mae hi wedi dod i'r amlwg fod Heddlu'r Met yn asesu fideo o gyngerdd Kneecap yn 2024.

Mae yna honiad iddyn nhw fynegi cefnogaeth i Hamas a Hezbollah yn ystod y gyngerdd. Byddai gwneud hynny yn anghyfreithlon.

Mae'r heddlu hefyd yn dweud eu bod yn ymwybodol o fideo arall o fis Tachwedd 2023 yn ymwneud â honiad bod un aelod o'r grŵp wedi dweud "Dim ond Tori marw sy'n Dori da, lladdwch eich Aelod Seneddol lleol".

Mae'r heddlu'n dweud iddyn nhw gael gwybod am y clipiau fideo ar 22 Ebrill.

KneecapFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiodd Kneecap yng Nghaerdydd ym mis Hydref llynedd

Mae Kneecap yn fand hip-hop o gymuned gorllewin Belfast, cadarnle gweriniaethol sydd o blaid uno Gogledd Iwerddon â'r Weriniaeth a sefydlu un wladwriaeth i'r ynys.

Mae'r triawd - Mo Chara, DJ Próvaí a Móglaí Bap - yn canu'r mwyafrif o'u caneuon yn yr iaith Wyddeleg, ac maent wedi ennill dilyniant rhyngwladol ers ffurfio yn 2017.

'Lledaenu gwenwyn'

Wrth ymateb i'r ffaith fod neges gan Kneecap wedi ei darlledu yn y rali fe ddywedodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, ar wefan X: "Mae gwleidyddion Plaid Cymru yn barod iawn i gyhuddo eraill o gasineb ond maen nhw'n cadw'n dawel pan mae eu cefnogwyr nhw sy'n lledaenu gwenwyn."

"Yn ystod yr orymdaith yn Y Barri, fe fuon nhw'n cymeradwyo Kneecap, grŵp sy'n cefnogi terfysgaeth Hamas a thrais gwleidyddol."

Roedd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn y rali, meddai, yn cymeradwyo pobl sy'n galw am ladd Aelodau Seneddol ac sy'n wynebu cyhuddiadau o fod yn wrth-Semitaidd.

"Dyna wyneb go iawn Cenedlaetholdeb Cymreig", meddai.

GorymdaithFfynhonnell y llun, YesCymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu amcangyfrif bod rhwng 6,000 a 7,000 o bobl yn rhan o'r orymdaith

Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Nid oedd Plaid Cymru yn rhan o baratoadau'r orymdaith nac yn ymwybodol o flaen llaw o gynnwys unrhyw fideo fyddai'n ymddangos fel rhan o'r digwyddiad.

"Dylid sicrhau bob amser fod gorymdeithiau sy'n hyrwyddo dyfodol gwell i Gymru yn adlewyrchu gwerthoedd heddychlon, cynhwysol, ac adeiladol y mudiad.

"Mae Plaid Cymru'n condemnio'n llwyr unrhyw sylwadau all fod yn gefnogol o grwpiau terfysgol neu'n annog trais yn erbyn aelodau etholedig, yn cynnwys gan Kneecap."

'Ysbryd heddychlon a chynhwysol'

Fe ddywedodd y trefnwyr, YesCymru ac AUOB Cymru:

"Roedd yr awyrgylch yn gadarnhaol ac yn ddathliad drwyddi draw, gan adlewyrchu ysbryd heddychlon a chynhwysol yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru.

"Yn ystod y digwyddiad pum awr, dangoswyd neges fideo 10 eiliad wedi'i recordio ymlaen llaw gan aelod o'r grŵp cerddorol Kneecap ar y sgrin.

"Roedd y fideo yn cynnwys neges o gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru, canolbwynt y digwyddiad, ac roedd yn rhan o segment yn cynnwys sawl neges undod gan fudiadau ledled Ewrop.

"Ar yr adeg y dangoswyd y fideo, nid oedd y trefnwyr yn ymwybodol o unrhyw ymchwiliad heddlu posibl yn ymwneud â'r grŵp cerddorol.

"Adroddodd y BBC gyntaf ar yr ymchwiliad ddydd Sul, y diwrnod ar ôl ein digwyddiad."

Wrth ymateb i feirniadaeth ddiweddar am eu cefnogaeth i bobl Gaza fe ddywedodd aelodau Kneecap eu bod nhw wedi wynebu ymgyrch yn eu pardduo oherwydd eu safiad.

"Ers dros flwyddyn ry' ni wedi tynnu sylw at ran Llywodraethau Prydain ac Iwerddon mewn troseddau rhyfel", meddai'r grŵp.

Fe awgrymon nhw y bydden nhw'n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y sawl oedd yn eu pardduo.

Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb Kneecap i'r sylwadau am ladd Aelodau Seneddol.