Dyn, 28, wedi ei arestio ar ôl i ddyn 61 oed gael anafiadau difrifol

Fan yr heddlu tu allan i dafarn The Church Inn yn Llaneirwg
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Bentre Llaneirwg yn oriau mân fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 28 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol ar ddyn 61 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dafarn The Church Inn yn Llaneirwg tua 01:00 ddydd Sadwrn.

Ddydd Sul, aeth dyn i mewn i orsaf heddlu yn wirfoddol ac fe gafodd ei arestio.

Ers hynny, mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae'r dyn 61 oed yn parhau yn yr ysbyty ac mae ei gyflwr yn cael ei ddisgrifio fel un difrifol ond sefydlog.