Cwest ffrwydrad Treforys: 'Ddim yn bosib gwybod yr achos'

Gwasanaeth tan ac achub ger lleoliad yr achos o ffrwydrad nwy yn Nhreforys.Ffynhonnell y llun, Pam Evans/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tŷ Brian Davies ei ddinistio'n llwyr gan y ffrwydrad, ac roedd yna ddifrod sylweddol i dai eraill

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed nad yw hi'n bosib gwybod beth achosodd y ffrwydrad angheuol yn Nhreforys.

Bu farw Brian Davies, 68, yn y ffrwydrad ar 13 Mawrth 2023 yn ei gartref ar Heol Clydach, Treforys, Abertawe.

Cafodd tri pherson arall, gan gynnwys bachgen 14 oed, driniaeth ysbyty.

Fe ddechreuodd y cwest i farwolaeth Mr Davies yn Neuadd y Ddinas Abertawe ddydd Llun diwethaf.

Ar bedwerydd diwrnod y cwest, dywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wrth y rheithgor fod y ffrwydrad yn "nodweddiadol o ffrwydrad nwy".

Fodd bynnag, ychwanegon nhw nad yw'n bosibl bod yn sicr o'r achos oherwydd diffyg tystiolaeth yn y lleoliad.

Dywedodd arolygydd iechyd a diogelwch o'r HSE ei fod wedi cael ei "gyfarch gan olygfa o ddinistr llwyr" pan gyrhaeddodd Heol Clydach y diwrnod ar ôl y ffrwydrad.

Dywedodd James Rutherford wrth y rheithgor: "Roedd eiddo wedi'i wasgaru o amgylch y stryd ac roedd darnau o'r to ar ochr y ffordd."

"Roedd yn nodweddiadol o ffrwydrad nwy difrifol," meddai.

Oherwydd diffyg tystiolaeth, dywedodd wrth y cwest: "Yn anffodus, dim ond damcaniaethau sydd gennym ond does dim arwydd y gallai fod wedi bod yn unrhyw beth heblaw ffrwydrad nwy."

Dywedodd Stephen Critchlow, prif beiriannydd nwy HSE, ei bod yn "ffaith" bod gollyngiad mewn prif bibell nwy yn agos i'r tŷ, a bod hyn yn "achos dilys dros y ffrwydrad".

Ychwanegodd: "Ond allai ddim diystyru gollyngiad nwy o fewn y tŷ, mae'r dystiolaeth honno wedi'i cholli."

Dywedodd Mr Critchlow: "Mae'n destun rhwystredigaeth na ches gais i fynd i'r safle ar unwaith" gan fod y "patrwm o ddifrod a'r offer hanfodol wedi'u tynnu" erbyn iddo gyrraedd y lleoliad ar 14 Mawrth 2023.

Dywedodd wrth y rheithgor fod ffrwydradau o'r math hwn yn brin, gyda'r rhan fwyaf o bobl a ymatebodd heb ddelio â nhw o'r blaen.

"Mae'n gwbl ddealladwy y byddent yn gwneud penderfyniadau a fyddai'n effeithio ar fy ymchwiliadau."

Mae'r holl dystiolaeth bellach wedi'i chlywed, ac mae'r cwest yn parhau.