Cwest ffrwydrad nwy Treforys: Y safle 'fel maes y gad'

Gweddillion sawl eiddo ar Heol Clydach, Treforys wedi ffrwydrad nwy yn un o'r taiFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tŷ Brian Davies ei ddinistio'n llwyr gan y ffrwydrad, ac roedd yna ddifrod sylweddol i dai eraill

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod dyn, a gafodd ei ladd mewn ffrwydrad nwy yn ei dŷ, wedi cael ei ddarganfod ar ôl chwe awr o chwilio drwy rwbel.

Daeth y gwasanaethau brys o hyd i Brian Davies, 68, yn ardal cegin ei gartref yn Heol Clydach, Treforys, Abertawe ar 13 Mawrth 2023.

Cafodd tri pherson arall, gan gynnwys bachgen 14 oed, eu cludo i'r ysbyty.

Ar ail ddiwrnod y cwest yn Neuadd y Ddinas, Abertawe, clywodd y rheithgor fod cerbyd JCB wedi cael ei ddefnyddio i symud rwbel o'r safle, a oedd "fel maes y gad", fel y gallai'r gwasanaethau brys gyrraedd Mr Davies.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Grant Phillips o Heddlu De Cymru mewn datganiad bod corff Mr Davies wedi'i ganfod yn gorffwys ar beiriant golchi.

Clywodd y rheithgor fod boeler nwy, popty a mesurydd nwy wedi'u hadfer a'u cadw i'w harchwilio gan yr heddlu, ond bod tunelli o falurion wedi'u cludo i ganolfan ailgylchu, a hynnny wedi ei drefnu gan Gyngor Sir Abertawe.

"Roedd y tywydd yn ofnadwy y diwrnod hwnnw," dywedodd y Ditectif Gwnstabl Stuart Alban o Heddlu De Cymru.

"Mae gweithio mewn amodau diogel yn golygu y byddai'r rwbel wedi cael ei gludo o'r safle."

Dywedodd DC Alban wrth y crwner fod gwersi wedi'u dysgu ar ôl y digwyddiad, gan gynnwys yr angen am "well cyfathrebu ar y safle" o ran cadw tystiolaeth.

Llun o stryd gyda tŷ ei ddymchwel yn llwyr, a sawl tŷ arall eu difrodi'n sylweddolFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod yn Heol Clydach wedi'r ffrwydrad

Dywedodd rheolwr grŵp adrannol o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wrth y rheithgor fod arogl nwy yn yr ardal ar ôl y ffrwydrad, ond nad oedd unrhyw dystiolaeth i nodi union leoliad y ffrwydrad.

"Roedd y tŷ wedi ei ddymchwel yn llwyr," dywedodd Andrew Davies.

Clywodd y cwest fod adroddiad post-mortem gan batholegydd wedi dod i'r casgliad bod Mr Davies wedi marw oherwydd anafiadau i'w frest a'i wddf.

Daeth sgrinio tocsicoleg o hyd i bresenoldeb cyffur gwrthiselder, clywodd y rheithgor, ond dywedodd y Crwner, Aled Gruffydd, nad oedd "unrhyw arwydd ei fod wedi chwarae unrhyw ran yn achos meddygol y farwolaeth".

Crac mewn pibell nwy

Clywodd y rheithgor hefyd gan uwch-wyddonydd deunyddiau o'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, a gynhaliodd adroddiad ar brif bibell nwy Heol Clydach.

Dywedodd Carlos Sanchez bod crac 4-8mm yn y bibell nwy ac roedd yna awgrym ei bod wedi erydu.

Nid oedd yn gallu cadarnhau os oedd y crac yn ddigon mawr i nwy ddianc ohono.

Bydd y cwest yn parhau ddydd Mercher.