Carcharu troseddwr rhyw am ymosodiadau canolfan siopa

Canolfan Dewi SantFfynhonnell y llun, St David's Dewi Sant
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a ymosododd yn rhywiol ar ddwy fenyw mewn toiled canolfan siopa, oriau ar ôl ymosod ar ferch yn ei harddegau, wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd.

Cafodd Phillip Daniel, 34 o'r Barri, ei ddedfrydu am geisio cipio'r ferch ar 26 Gorffennaf 2024, wrth ei thynnu i lawr o wal a cheisio gwrthio'i gorff yn ei herbyn hi drwy afael yn ei bron a'i gwddf.

Llwyddodd y ferch i ddianc ac aeth i ddweud wrth ffrindiau, a roddodd wybod i'r heddlu.

Yn y cyfamser, fe deithiodd Daniel ar drên o'r Barri i Gaerdydd.

Yno, aeth i doiledau menywod Canolfan Siopa Dewi Sant, lle ymosododd ar ddwy fenyw o fewn eiliadau i'w gilydd.

Dywedodd y Barnwr Tracy Lloyd-Clarke bod angen ei garcharu, ac ychwanegodd gyfnod estynedig ar drwydded, gan ei bod hi'n ystyried ei fod yn "berson o risg uchel iawn" i fenywod.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Daniel wedi dweud wrth yr heddlu fod "lleisiau yn ei ben" wedi dweud wrtho i deithio i Gaerdydd.

Roedd wedi bod yn destun gorchymyn cymunedol o'r blaen am ymosod ar redwraig benywaidd ym Mharc Bute, Caerdydd, ar 31 Ionawr 2023.

Dywedodd William Bebb, oedd yn cynrychioli Daniel, fod gan ei gleient gefndir cymhleth o ran iechyd meddwl.

Mae Daniel wedi bod yn cael triniaeth dan y Ddeddf Iechyd Meddwl am 15 mis ers y troseddau, a dywedodd Mr Bebb fod hynny wedi "dod â rhywfaint o sefydlogrwydd".

Dioddefwyr yn byw mewn ofn

Dywedodd y dioddefwyr fod yr ymosodiadau wedi eu gadael yn bryderus ac yn ofnus o fynd allan ar eu pennau eu hunain.

Roedd y ferch yn ei harddegau wedi cael trafferth gydag unigrwydd a phryder, a bu effaith ar ei pharatoi ar gyfer arholiadau TGAU.

Dywedodd menyw arall fod y profiad wedi ei gadael yn ofnus o ddefnyddio toiledau cyhoeddus.

Dywedodd yr ail ddioddefwraig o'r ganolfan siopa ei bod yn byw mewn ofn, ei bod yn dioddef ymosodiadau o banig ac yn cael trafferth cysgu'n iawn.

Clywodd y llys hefyd fod yr heddlu wedi dod o hyd i dabled Viagra sengl yn waled Daniel pan gafodd ei arestio yn y ganolfan siopa.

Fodd bynnag, doedd dim tystiolaeth ei fod wedi cymryd y feddyginiaeth ar ddiwrnod yr ymosodiadau.

Dywedodd y Barnwr Lloyd-Clarke fod tystiolaeth bod Daniel wedi ffurfio credoau cysylltiedig â'r "is-ddiwylliant incel".

Mae "incels", neu "involuntary celibates", yn gymuned o ddynion sy'n ffurfio hunaniaeth o amgylch eu hanallu i ffurfio perthnasoedd rhywiol neu ramantus.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod dadansoddiad seiciatryddol wedi dod i'r casgliad ei fod yn "peri risg uchel i fenywod, yn enwedig merched ifanc".

Fe gafodd Daniel ddedfryd o wyth mlynedd yn y carchar am bedwar ymosodiad rhywiol ar yr oedolion ac un ymosodiad treisgar ar y ferch ifanc.

Bydd hefyd yn destun trwydded estynedig o bedair blynedd ar ôl ei ryddhau o'r carchar, ac mae'n destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol