Pryder y bydd gwyliau yn symud yn sgîl rheolau cynllunio

The Big RetreatFfynhonnell y llun, Owen Howells/The Big Retreat
Disgrifiad o’r llun,

Mae gŵyl llesiant y Big Retreat yn Lawrenni yn denu tua 3,000 o ymwelwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae gwyliau cerddorol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi rhybuddio y bydd rhaid ystyried symud yn y dyfodol oherwydd cynlluniau am reolau newydd ar wersylloedd dros dro.

Mae aelodau'r awdurdod wedi cefnogi cynlluniau, dolen allanol i orfodi tirfeddianwyr i wneud cais cynllunio am wersyll dros dro, sydd yn medru agor am 28 diwrnod y flwyddyn.

Yn ôl trefnydd gŵyl llesiant y Big Retreat yn Lawrenni, Amber Lort-Phillips, mae'n bosib y bydd rhaid symud yr ŵyl i Loegr ar ôl 2026 oherwydd y newidiadau.

Yn ôl prif weithredwr awdurdod y parc cenedlaethol, Tegryn Jones, y nod yw creu "tegwch" ac mae yna "gefnogaeth sylweddol" i'r rheolau llymach.

Safle gwersyll dros dro gŵyl y Big Retreat yn Lawrenni
Disgrifiad o’r llun,

Safle gwersyll dros dro gŵyl y Big Retreat yn Lawrenni

Ar hyn o bryd, fe all tirfeddianwyr agor gwersyll dros dro yng Nghymru o dan reolau "hawliau a ganiateir" ar gyfer hyd at 28 diwrnod y flwyddyn.

Yn Lloegr, y cyfnod yw 60 diwrnod, ac fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ymestyn y cyfnod i 60 diwrnod cyn hir.

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw'r unig awdurdod yng Nghymru i gyflwyno rheolau llymach yn y maes ers i'r Gŵyr gyflwyno cyfyngiadau ym 1977.

Does dim bwriad gan y ddau barc cenedlaethol arall yng Nghymru i ddilyn yr un trywydd.

Er na fydd effaith ar wyliau sydd yn cynnig gwersylloedd dros dro yn 2025, mae Amber Lort-Phillips yn bryderus iawn am yr effaith ar ôl 1 Ionawr 2026.

Mae hi'n dweud bod yr ŵyl yn dod â £1m i'r economi leol.

Amber Lort-Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Amber Lort-Phillips yw sylfaenydd gŵyl y Big Retreat, sy'n cynnig dosbarthiadau llesiant a pherfformiadau cerddorol

"Mae'r hawliau yn hanfodol" meddai Ms Lort-Phillips.

"Dyw hi ddim yn bosib rhedeg yr ŵyl heb y gwersyll. Yr effaith bosib yw efallai y bydd rhaid symud.

"Dyma yw cartref Gŵyl y Big Retreat. Dyw e ddim yn deg. Efallai bydd rhaid ystyried cartref tu allan i Gymru."

Mae hi'n honni nad oes tystiolaeth gadarn i gyfiawnhau'r newid, a does yna ddim sicrwydd y bydd gwersylloedd dros dro yn cael caniatâd.

Mae'r parc cenedlaethol yn mynnu y bydd yn blaenoriaethu'r ceisiadau i osgoi unrhyw oedi.

Tegryn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Tegryn Jones, mae gwersylloedd dros dro yn hawlio 12% o adnoddau "gorfodi" y parc cenedlaethol

Yn ôl prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Tegryn Jones, does yna ddim rheolaeth dros wersylloedd dros dro ar hyn o bryd.

"Mae yna 7,500 o leoliadau ar gyfer carafanau a phebyll yn y Parc Cenedlaethol yn barod," meddai.

"Maen nhw wedi mynd trwy broses gynllunio a rhoi'r amodau a threfniadau i ddiogelu yr amgylchedd a safon y dŵr.

"Maen nhw wedi buddsoddi tra bod safleoedd sydd heb eu rheoleiddio yn gallu gweithredu am 28 diwrnod heb unrhyw o'r caniatâd yna.

"Ni'n ceisio unioni'r broses."

WestivalFfynhonnell y llun, Westival
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl Westival yn cael ei chynnal yn Maenorbŷr ers 2017

Mae'r mesurau llymach wedi cael cefnogaeth gan rai sydd yn rhedeg gwersylloedd yn Sir Benfro.

Dywedodd Ben Carden o'r Woodlands Champions Club bod yna "broblemau difrifol" yn medru codi gyda gwersylloedd dros dro.

Mae trefnydd gŵyl arall ym Maenorbŷr yn honni na wnaeth unrhyw un o'r parc cenedlaethol gysylltu i drafod y newidiadau, a'u bod nhw'n "sioc" iddo.

Fe sefydlwyd Westival gan Joe Worley yn 2017 ac mae'n denu tua 2,500 o ymwelwyr.

"Mi fyddai'n amhosib cynnal y digwyddiad heb y gwersyll dros dro," meddai.

"Os na fyddai modd cael caniatâd cynllunio ar y cae, yna mae'n bosib byddai'n rhaid i ni symud i leoliad arall.

"Mae'n teimlo fel rhywbeth niweidiol iawn i fusnesau."

Arwydd y parc cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae 23,000 o bobl yn byw o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus, dolen allanol, dywedodd pobl eu bod yn pryderu am effaith gwersylloedd dros dro ar y tirlun, bioamrywiaeth ac isadeiledd lleol.

Fe wnaeth 120 o bobl ymateb ar-lein, sy'n cyfateb i 0.5% o boblogaeth y parc - 23,000 o drigolion.

Mae Amber Lort-Phillips yn feirniadol o'r broses ac mae'n honni y gallai'r rheolau llymach "niweidio datblygiad economaidd".

Gwadodd Tegryn Jones bod y parc cenedlaethol "yn erbyn datblygiad".

Rob Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Rob Griffiths ym maes twristiaeth trwy gynnig gwersyll am 28 diwrnod y flwyddyn ar dir ei fferm ger Tyddewi

Fe wnaeth y ffermwr Rob Griffiths o Dyddewi ddefnyddio'r rheol 28 diwrnod er mwyn sefydlu gwersyll dros dro ar ei dir 10 mlynedd yn ôl.

Erbyn hyn mae wedi datblygu busnes twristiaeth parhaol, gyda chaniatâd llawn, yn cynnig llety i 2,500 o blant ysgol sy'n ymweld â'r ardal.

Mae'n dweud na fyddai wedi gallu arallgyfeirio o fyd ffermio heb yr 'hawliau datblygu a ganiateir' i sefydlu gwersyll dros dro.

Dywedodd ei fod wedi gallu "dechrau o ddim".

"Oni bai am hynny baswn i ddim wedi dechrau o gwbl," meddai.

"Fe wnaeth lot o wahaniaeth i ni fel ffermwyr i gael rhyw incwm gwahanol. Wedd y ffarm ddim yn gwneud cystal yr adeg honno."

St Davids Bunk Barns
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn mae busnes Rob Griffiths yn denu miloedd o ymwelwyr ifanc bob blwyddyn

Mae ymgynghoriad pellach ar y newidiadau dadleuol yn cael ei gynnal tan 21 Chwefror, gyda phleidlais derfynol gan aelodau'r awdurdod yn y gwanwyn.

Mae disgwyl i'r newidiadau gael eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2026.