Dyn wedi ei arestio a dau yn yr ysbyty ar ôl cael eu taro gan fan

Canolfan Siopa Llys y Castell, CaerffiliFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Canolfan Siopa Llys y Castell, Caerffili

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 14 oed a dyn 71 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng nghanol Caerffili.

Dywed Heddlu Gwent bod dau gerddwr a fan yn rhan o'r gwrthdrawiad ar Heol y Castell, ger Canolfan Siopa Llys y Castell tua 15:00 brynhawn Mawrth.

Mae dyn 24 oed o ardal Caerdydd yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol trwy yrru'n beryglus, a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

Fe gafodd ambiwlans awyr ei anfon i'r safle fel rhan o'r ymateb.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth all fod o gymorth i'r ymchwiliad i'r achos a lluniau dashcam gan bobl a yrrodd ar hyd Heol y Castell rhwng 14:45 a 15:00 ddydd Mawrth.

Mae'r Sarjant Lewys Davies, sy'n arwain yr ymchwiliad, hefyd yn apelio i'r cyhoedd "beidio â dyfalu ynghylch yr amgylchiadau ar y cyfryngau cymdeithasol oherwydd gallai hynny amharu ar ei hymholiadau".

Ychwanegodd y bydd yna bresenoldeb heddlu mwy amlwg yr yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i'r ymchwiliad barhau.

Pynciau cysylltiedig