Naw mlynedd o garchar i ddyn dalodd i wylio cam-drin plant
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Fynwy wedi cael ei garcharu am naw mlynedd am dalu i wylio plant yn cael eu cam-drin ar lif byw ar-lein.
Daeth Stephen Lane, 55, i sylw yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ar ôl i berson gael ei arestio yn Ynysoedd Philippines.
Fe wnaeth Lane yrru negeseuon i'r unigolyn rhwng 22 Mawrth a 7 Ebrill 2023, yn cynnig talu am gynnwys yn ymwneud â phlentyn wyth oed.
Cafodd Lane ei arestio yn ei gartref ar 25 Mai 2023 a chafodd nifer o ddyfeisiau eu cymryd.
Dywedodd ar y pryd: "Rwy'n gwybod ei fod yn anghywir."
Datgelodd adolygiad digidol fod Lane wedi cyfathrebu â 19 o fenywod Philipinaidd gwahanol er mwyn gweld camdriniaeth plant mor ifanc â phump oed.
Ar 11 Medi 2024, plediodd Lane yn euog i dalu am wasanaethau rhywiol plentyn, gan achosi neu annog camfanteisio rhywiol ar blentyn, annog yn fwriadol y dosbarthiad o luniau anweddus o blant, yn ogystal â chreu un ddelwedd Categori A, dau Gategori B a 12 Categori C.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 17 Rhagfyr.
Mae'r hwyluswyr yn Ynysoedd Philippines wedi'u harestio ac mae'r plant dan sylw wedi'u diogelu, meddai'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.