Profion Cymraeg yn rhoi 'cyfiawnder' i bobl gyda dyslecsia
- Cyhoeddwyd
Mae criw o ddisgyblion blwyddyn 7 yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhorfaen wedi bod yn treialu profion llythrennedd newydd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn y pen draw, bydd y profion yma yn gallu dweud a oes gan ddisgybl anhawster llythrennedd, gan gynnwys dyslecsia.
Dyma'r tro cyntaf i'r math yma o brofion gael eu creu, a hynny diolch i waith ymchwil Marjorie Thomas a Dr Rhiannon Packer o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Yn ôl Marjorie Thomas, mae'n "bwysig i ni bod y profion hyn yn cael eu datblygu, fel bod cyfiawnder i bobl sydd yn siarad Cymraeg".
Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y gobaith yw sicrhau fod y profion dyslecsia newydd yma ar gael am ddim i bob ysgol uwchradd erbyn dechrau 2026.
'Mae plant sydd wedi cael cam'
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i bobl sy'n amau bod ganddyn nhw dyslecsia wneud prawf asesu yn Saesneg.
Yn ôl Dr Rhiannon Packer, mae hynny'n golygu "yn bendant falle bod 'na blant sydd wedi cael cam".
"Os y' ni dim ond yn asesu plentyn trwy un iaith a ma' nhw’n ddwyieithog, dy' nhw ddim yn cael y darlun cyflawn o’r plentyn. 'Da ni’n profi eu gallu yn y Saesneg a dim yn y Gymraeg."
Mae gan blentyn Shari Llewelyn dyslecsia ac mae hi'n dweud bod angen edrych i weld sut mae sicrhau fod y profion yma ar gael i bob unigolyn sydd eu hangen.
"Dwi’n meddwl fod o’n wych bod y prawf yma mynd i fod ar gael mewn ysgolion [uwchradd] am ddim a’r hyfforddiant am ddim, ond 'da ni angen edrych ar sut ma' unigolion yn medru cyrraedd y profion yna,” meddai.
"Ma' lot o bobl sydd angen profion dyslecsia, ella 'di gadael addysg, a ma' dal mynd i gostio nhw hyd at £600 a ma' dal yn mynd i fod yn y Saesneg.
"Dwi’n nabod bobl sydd 'di gorfod benthyg pres oherwydd y gost i gael y prawf dyslecsia, a ma' hynna yn hollol anghyfiawn."
Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er nad oes angen diagnosis i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i ddysgwr pan fo’i angen, mae profion sgrinio dyslecsia a phrofion diagnostig yn cael eu defnyddio gan athrawon weithiau er mwyn nodi beth yw’r cymorth priodol i oresgyn unrhyw beth sy’n rhwystr i unigolyn rhag dysgu.
"Mae gyda ni fframwaith anawsterau dysgu penodol a chanllawiau ar sgrinio, asesu ac ymyrryd i helpu ymarferwyr i ddeall yn well yr anawsterau y mae dysgwyr â dyslecsia yn eu hwynebu.”
Yn ôl Dr Rhiannon Packer, mae’r profion yma "yn fan cychwyn".
"Mae'n rhaid ni gychwyn yn rhywle yn does? A’r gobaith allwn ni helpu plant sy'n hŷn ac yn iau yn y dyfodol."
Mae Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Rhian Dickenson, yn croesawu’r profion yn fawr.
"Roedden ni wedi penderfynu bod yn rhan o’r treialon oherwydd ma' gymaint o brinder o adnoddau o ffyrdd o brofi dysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg."
Ychwanegodd: “Yn aml iawn oedd rhieni yn gofyn am gymorth neu plant yn gofyn am gefnogaeth a roeddech chi’n gwneud eich gorau glas ond heb y sylfaen i allu mesur lle oedden nhw ar y pryd a fel ma’ nhw wedi neud cynnydd."
Roedd hi’n "teimlo bod en bwysig bod yn rhan o’r treialon yma er mwyn cefnogi y dysgwyr".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2019