Canolfannau 'angenrheidiol' i bobl ag anghenion ychwanegol i gau

Mae cynlluniau Cyngor Sir Powys yn cynnwys cau Canolfan Sylfaen yn Llanidloes
- Cyhoeddwyd
Bydd canolfannau dydd mewn rhannau o Bowys yn cau, wrth i'r cyngor sir fwrw ymlaen gyda chynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau i oedolion ag anghenion ychwanegol.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys cau tair canolfan ddydd yn Llanidloes, Ystradgynlais ac Aberhonddu.
Maen nhw'n cynnig gwasanaethau i bobl ag anableddau neu anawsterau dysgu o 18 oed.
Mae'r canolfannau yn cael eu disgrifio gan deuluoedd fel "adnodd angenrheidiol" sy'n ysgafnhau'r baich ar ofalwyr.
Yn ôl Cyngor Powys, bydd gwasanaethau'n cael eu "darparu mewn gwahanol ffyrdd, naill ai yn y cartref neu o leoliadau eraill".

Mae Bethan wedi bod yn mynychu Canolfan Sylfaen yn Llanidloes ers dros 20 mlynedd
Mae'r cyngor wedi bod yn edrych ar ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddarparu trwy gymysgedd o wasanaethau statudol a chefnogaeth gan y trydydd sector - gan wneud arbedion o £277,000.
Dadl teuluoedd yw mai'r canolfannau dydd yw'r unig leoedd addas ar gyfer anghenion llawer o'r defnyddwyr, a byddai cau'r canolfannau yn "golled fawr" i bobl "mwyaf bregus cymdeithas".
Mae Bethan, sydd yn 72 oed a gydag anableddau dysgu, wedi bod yn mynychu Canolfan Sylfaen yn Llanidloes ers dros 20 mlynedd.
Mae brawd Bethan, Geraint Jones, yn disgrifio'r ganolfan fel lle "difrifol o bwysig" i'r defnyddwyr, ac yn dweud y byddai'n golled fawr.

"Mae hyn yn ddifrifol o bwysig i gadw'r ganolfan yma ar agor i Bethan," medd Geraint Jones
"Rydyn ni fel teulu yn gallu gweld ar wyneb Bethan ei bod hi'n hapus yn mynd i'r ganolfan ddydd, ac mae'n mynd tair gwaith yw wythnos," meddai.
"Mae'n mynd yno yn gwenu ac mae'n dod adre yn gwenu.
"Rhowch eich hunain yn ei sefyllfa hi - bydde chi'n licio bod adre yn y tŷ am saith diwrnod yr wythnos?"
Ychwanegodd Mr Jones fod ei chwaer yn "gallu mynd i Lanidloes a chwrdd â phobl gwahanol a gweld wynebau gwahanol, sydd yn bwysig".
"Dydy hi methu ymladd am hyn dros ei hunan, ond mae hyn yn ddifrifol o bwysig i gadw'r ganolfan yma ar agor i Bethan.
"Does dim byd arall yn yr ardal yma sydd yn addas iddi."

Dywedodd Nicola Barrett nad yw hi'n gwybod sut i esbonio i'w merch "na all hi fynd i'w hoff le"
Mae'r canolfannau dydd yn wasanaeth sy'n daladwy, gyda theuluoedd yn disgrifio bod niferoedd isel yn rhan hanfodol o'r gofal un-i-un y mae angen ar lawer o'r defnyddwyr.
Y canolfannau fydd yn cau yw Arosfa yn Aberhonddu, Canolfan yn Ystradgynlais a Sylfaen yn Llanidloes.
Mae Taylor Johnson, sy'n 20 oed, hefyd yn mynychu un o'r canolfannau dydd.
Mae ei mam Nicola Barrett yn dweud "nad oes lle arall sydd yn addas iddi".
"Dydy hi ddim yn gallu mynd i gaffis, fydd hi ddim yn defnyddio grwpiau a dydw i ddim yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig iddi mewn gwirionedd, o ran gallu cael mynediad i'r gymuned a gweld ei chyfoedion a phobl eraill.
"Mae hi'n mynd i gael ei thaflu'n ôl i unigrwydd adre gyda fi, a bydd hynny'n cael effaith ar ei hiechyd meddwl, o ran ei dealltwriaeth hi o gau'r ganolfan.
"Dydw i ddim yn gwybod sut ydw i'n mynd i esbonio iddi na all hi fynd i'w hoff le."
'Dull mwy hyblyg a chynaliadwy o gefnogi pobl'
Cynllun ad-drefnu gwasanaethau Powys yw creu pum canolfan yn y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais - gyda gwasanaeth estyn allan yn cael ei ddarparu o'r canolfannau i'w hardaloedd cyfagos.
Dywedodd yr aelod cabinet dros Bowys Gofalgar, y Cynghorydd Sian Cox, mai'r weledigaeth yw "creu model cyfleoedd dydd sy'n cefnogi pobl i fyw bywydau iach a gwerth chweil, fel aelodau gwerthfawr o'u cymunedau a'u cymdeithas, yn gallu cymryd rhan yn yr hyn sy'n bwysig iddynt; ac sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl i wneud yr un peth".
"Bydd pawb sy'n derbyn darpariaeth ddydd ar hyn o bryd yn parhau i dderbyn un, boed drwy wasanaeth traddodiadol, byw â chymorth, taliad uniongyrchol neu ddull arall."
Ychwanegodd Ms Cox y bydd y model newydd yn "darparu mwy o gapasiti mewn meysydd allweddol ac yn darparu dull mwy hyblyg a chynaliadwy o gefnogi pobl i gyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt".

"Mae lefel yr arbedion sy'n cael eu gwneud gan yr awdurdod lleol yn fach iawn o gymharu â'r budd i'r defnyddwyr hynny a'u teuluoedd," medd Elwyn Vaughan
Yn ôl Elwyn Vaughan, Cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Powys, mae'r canolfannau hyn yn "hanfodol bwysig, nid yn unig i'r unigolyn - ond i'w teuluoedd".
"Mae'r lleoedd hyn yn cynnig gofal seibiant i'r teuluoedd hynny," meddai.
"Dyma aelodau mwyaf bregus cymdeithas ac mae lefel yr arbedion sy'n cael eu gwneud gan yr awdurdod lleol yn fach iawn o gymharu â'r budd i'r defnyddwyr hynny a'u teuluoedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin
- Cyhoeddwyd23 Mawrth
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024