'Loes enfawr gweld plant yn ffilmio damwain Dad'

Eve Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Eve Thomas ddatblygu PTSD yn dilyn damwain ei thad, ac mae'n dweud bod gweithredoedd pobl o'i chwmpas ar y pryd wedi cyfrannu at hynny

  • Cyhoeddwyd

Pan ddaeth Eve Thomas o hyd i barafeddygon yn trin ei thad yn dilyn gwrthdrawiad ffordd difrifol, roedd hi wedi ei hamgylchynu gan bobl yn tynnu lluniau o'r digwyddiad i'w rhoi ar gyfryngau cymdeithasol.

Cafodd ei theulu wybod, yn anghywir, bod ei thad wedi marw, oherwydd y damcaniaethu arlein ynglŷn â'r hyn oedd wedi digwydd.

Mae'r ferch 25 oed bellach yn cefnogi ymgyrch sy'n galw ar i bobl feddwl ddwywaith cyn rhannu lluniau o ddigwyddiadau o'r fath ar y we.

Mae'r ymgyrch hefyd yn cael ei chefnogi gan y gwasanaethu brys a gweithwyr trawma GIG, sy'n teimlo bod gweithredoedd o'r fath yn ymyrryd gyda'u hymdrechion i achub bywydau a pharchu urddas y dioddefwyr.

'Cofnod o eiliadau gwaethaf bywyd Dad'

Roedd Eve yn 17 oed pan gafodd ei thad, Nigel, ei daro oddi ar ei feic wrth ddychwelyd o'i waith fel gyrrwr fan ddosbarthu yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf.

Roedd ei bws ysgol hi yn rhan o'r traffig wnaeth stopio wrth safle'r gwrthdrawiad, ac fe welodd hi bod ei thad yn rhan o'r digwyddiad.

"Roeddwn i ar fws yn llawn o blant eraill oedd yn ffilmio ac yn tynnu lluniau ac roedd hynny'n achosi loes enfawr," meddai Eve.

"Roedd yn cael ei drin gan yr ambiwlans awyr ac roedd pobl yn ffilmio hynny."

Cafodd ei thad niwed difrifol i'w ymennydd a nifer o anafiadau eraill.

Roedd mewn coma am fis ac yn yr ysbyty am tua naw mis.

Mae Eve yn cofio gweld y digwyddiad yn cael ei drafod ar-lein pan oedd ei thad mewn cyflwr bregus, a doedd ganddo "ddim llais" yn yr hyn oedd yn cael ei ddweud, meddai.

Er bod ffrindiau wedi ceisio sicrhau bod deunydd yn cael ei dynnu oddi ar wahanol blatfformau, mae Eve yn dweud iddi gael trafferth ymdopi â'r ffaith bod yna ffilmio a thynnu lluniau o'r digwyddiad wedi bod o gwbl.

"Hyd yn oed os yw e ar hen ffôn mewn drôr, mae ganddyn nhw gofnod o eiliadau gwaethaf bywyd fy nhad yno," meddai.

"Os byddech chi ag aelod agos o'r teulu mewn sefyllfa fel yna, fydde well gennych chi i rywun gymryd munud i feddwl - neu alw am gymorth - neu fydde well gennych chi i rywun ffilmio a chofnodi?"

'Ffrydio eiliadau olaf person'

Mae'r Arolygydd Nia Lambley o Heddlu De Cymru yn annog pobl i ddefnyddio eu ffonau i alw am gymorth yn hytrach na ffrydio eiliadau olaf person yn fyw ar-lein.

"Rydyn ni'n ceisio rhoi cymaint o urddas â phosib yn yr eiliadau bregus yna," meddai'r Arolygydd Lambley.

Mae'n dweud bod yna "newid sylweddol" wedi bod yn ystod ei 13 mlynedd fel swyddog heddlu.

"Yn hytrach na phobl yn defnyddio eu ffonau i alw am gymorth, maen nhw'n eu defnyddio i ffilmio ac uwchlwytho ar gyfryngau cymdeithasol, dim ond er mwyn i bobl eraill wneud sylwadau a 'hoffi' y lluniau."

Mae'r ymgyrch, 'It's Not Your Story To Tell' wedi cael ei gyd-gynhyrchu gan Eve Thomas a Rhwydwaith Trawma De Cymru, dolen allanol, sy'n cynnwys ysbytai, gwasanaethau brys a gwasanaethau adferiad.

Arolygydd Nia Lambley
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Arolygydd Nia Lambley, gallai fod yn ras yn erbyn amser i'r heddlu gyrraedd teulu i roi newyddion drwg cyn iddo gael ei roi ar-lein

Yn ôl yr Arolygydd Lambley mae aelodau'r cyhoedd yn ffilmio'r heddlu yn arferiad cyffredin, ac mae hi'n derbyn bod yn rhaid i swyddogion gael eu dwyn i gyfrif.

"Ond pan rydyn ni'n gweld yr effaith mae'n ei gael ar y bobl rydyn ni'n eu trin sydd wedi dioddef... mae hynny wir yn brifo, oherwydd mae'n mynd yn gwbl groes i'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud," meddai.

"Ar rai achlysuron mae pobl yn defnyddio eu ffôn i ffrydio'n fyw yr hyn sydd weithiau yn eiliadau olaf person."

Mae'n cofio un digwyddiad pan fu farw bachgen 15 oed, ac ar ôl ceisio ei adfywio, roedd hi a chydweithiwr yn ymwybodol bod rhywun wedi tynnu llun ac wedi ei roi ar gyfryngau cymdeithasol gan ddweud bod y bachgen wedi marw.

Dywed ei bod wedi cael ei hyfforddi i gyfleu'r neges gydag urddas bod rhywun wedi marw, a bod angen cael amser i ymdawelu cyn torri'r newyddion i'r teulu.

"Yn yr achos yma roeddwn i'n llythrennol yn gorfod rhedeg o'r safle i gartref teulu'r bachgen, yn brin o anadl yn curo ar eu drws gan ddweud 'Mae'n wir ddrwg gen i, mae eich mab wedi marw'.

"Nid dyna'r ffordd roeddwn i eisiau rhoi'r neges yna, ond roeddwn i'n teimlo bod yn rhaid i mi gyrraedd yno cyn iddo gael ei roi ar gyfryngau cymdeithasol.

"Mae'n ras yn erbyn amser, a does ganddoch chi ddim rheolaeth drosto.

"I fi, fe wnes i dro gwael gyda'r teulu yna.

"Ond fe wnes i atal rhywun oedd ar eu ffordd i fynegi eu cydymdeimlad, a'u gwthio o'r drws i bob pwrpas gan ddweud nad oedd y teulu yn gwybod."

Andrea Bradley
Disgrifiad o’r llun,

Mae cael pobl o'u cwmpas yn tynnu lluniau a ffilmio yn gallu tynnu sylw gweithwyr y gwasanaethau brys, yn ôl Andrea Bradley

Cafodd yr ymgyrch ei hysgogi gan Rwydwaith Trawma De Cymru oherwydd yr effaith y mae'r mater wedi ei gael ar weithwyr proffesiynol.

Yn ôl rheolwr gweithrediadau'r rhwydwaith, Andrea Bradley, mae cael rhywun yn recordio eich ymdrechion i gefnogi person sydd angen cymorth yn cael "effaith negyddol ar bawb", gan gynnwys y gweithwyr proffesiynol.

"Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig iawn tanlinellu'r effaith y mae'n gael ar staff hefyd," meddai.

"Pan mae pobl yn eu recordio yn ceisio achub bywyd rhywun, mae'r effaith yn enfawr. Mae'n gyfrifoldeb enfawr ar yr aelod yna o staff.

"Rydyn ni wedi cysylltu â phob adran o'r gwasanaethau brys i ofyn am yr effaith - fe ddywedodd pob un eu bod wedi cael profiadau negyddol ac eisiau bod yn rhan o'r ymgyrch yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.