Prif weinidog yn torri rheolau wrth beidio datgan derbyn arian gan undeb

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Senedd
  • Cyhoeddwyd

Mae Eluned Morgan wedi torri rheolau'r Senedd drwy fethu â datgan ei bod wedi cael arian gan undeb llafur, yn ôl adroddiad.

Cyfeiriodd y prif weinidog at Unite tra'n siarad am waith dur Tata ym Mhort Talbot yn y siambr y llynedd.

Dywedodd adroddiad y dylai fod wedi datgan ar y pryd ei bod yn aelod o Unite a'i bod hi wedi derbyn £3,500 mewn nawdd gan yr undeb.

Dywedodd Pwyllgor Safonau'r Senedd fod y "sylwadau didaro (passing)" yn torri'r cod ymddygiad, ond nad oedd angen cymryd camau pellach.

Mae'r rhodd wedi'i chofnodi ar wefan y Senedd yng nghofrestr buddiannau'r aelodau.

'Achos o esgeulustod'

Cyn siarad yn y siambr, mae rheolau'r Senedd yn dweud bod yn rhaid i aelodau ddatgan buddiannau - gan gynnwys rhai ariannol - sydd ganddyn nhw neu eu teuluoedd.

Dywedodd y Comisiynydd Safonau Douglas Bain nad oedd awgrym bod buddiannau cofrestredig y prif weinidog wedi dylanwadu arni yn y siambr.

Ond dywedodd "y cwestiwn yw... a allai eraill yn rhesymol feddwl bod ei buddiannau'n dylanwadu ar ei chyfraniad".

Gwadodd Eluned Morgan dorri'r rheolau, gan ddweud wrth Bain ei bod yn gweithredu fel prif weinidog a doedd dim pleidlais yn y Senedd yn dilyn y ddadl.

Dywedodd nad oedd "unrhyw amheuaeth" ei bod yn gweithredu fel prif weinidog, ond bod diffyg pleidlais yn "amherthnasol".

Dywedodd y pwyllgor safonau trawsbleidiol ei fod yn "fodlon bod hyn yn achos o dorri oherwydd esgeulustod yn hytrach nag anwybyddu bwriadol o'r gofynion ynghylch datgan buddiannau perthnasol".

Fe wnaeth y pwyllgor hefyd alw am gynnwys y dyddiadau, pan wneir datganiadau o fuddiant, yn y gofrestr.