Cael pasbort am y tro cyntaf er mwyn dod o Ohio i ganu yng Nghymru

- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar, daeth côr myfyrwyr draw o Brifysgol Rio Grande yn Ohio, UDA, am ymweliad bythgofiadwy â Chymru.
Mae'r brifysgol yn gartref i Ganolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig, sef unig ganolfan astudiaethau Cymreig Gogledd America, a hynny oherwydd cysylltiad rhwng Ceredigion ac Ohio pan allfudodd chwe theulu o Aberaeron draw yno yn 1818.
Cyfarwyddwr y ganolfan, Dan Rowbotham, fu'n tywys y teithwyr ledled Cymru, ac mae wedi cadw cofnod o'u hanturiaethau Cymreig i BBC Cymru Fyw.
Diwrnod 1 a 2 – Dydd Gwener a Sadwrn, 30-31 Mai
Treulion ni'n diwrnod llawn cyntaf yng Nghymru ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam; yn canu ar stondinau ar y maes, cael cyfweliadau teledu a radio a chrwydro'r stondinau a chwrdd â hen ffrindiau sydd wedi ymweld â Rio Grande dros y blynyddoedd.
Roedd yr ail ddiwrnod yn gyfle i ni ymweld â stondinau'r Maes, a gwylio arlwy Triban.

Cafodd y criw groeso mawr yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr
Mi wnaethon ni fwynhau ein hamser ar faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr yn fawr iawn, a nifer o'r criw wedi trio te am y tro cyntaf erioed!
Oherwydd cefndir socio-economaidd yr ardal, dydy pobl ddim yn teithio tu allan i UDA. Anarferol iawn yw cael pasbort, felly'r daith yma oedd y tro cyntaf i'r rhan fwyaf adael y wlad a bron pawb wedi gorfod cael pasbort am y tro cyntaf i fynd ar y daith.
Diwrnod 3 – Dydd Sul, 1 Mehefin
Roedd heddiw'n ddiwrnod o deithio, o Abertawe lan i Landudno, trwy'r mynyddoedd a'r gwyrddni.
Mae Ohio yn fflat iawn, iawn tu hwnt i'r ardal lle 'dyn ni'n byw, felly roedd hi'n hyfryd gallu edrych allan o ffenestri'r bws i weld tirwedd wahanol i'r hyn 'dyn ni wedi arfer gydag e.
Diwrnod 4 – Dydd Llun, 2 Mehefin
Roedd heddiw'n ddiwrnod hir!
Aethon ni i gastell Conwy, a chwrdd â hen ffrind i'r ganolfan, David. Mae e'n dod o Ohio yn wreiddiol, ond bellach yn byw yng Nghymru, ac yn gweithio yn y castell. Wnaethon ni fwynhau ein sgwrs gydag e'n fawr iawn.

Y criw yn cwrdd â rhywun arall o Ohio, sydd bellach yn gweithio yng Nghastell Conwy - David
Gaethon ni ychydig o amser i grwydro o gwmpas y dre, siopa a chael rhywbeth i fwyta cyn i ni fynd i Lanfairpwll. 'Dyn ni wedi bod yn ymarfer dweud yr enw hiraf yng Nghymru... mae rhai ohonom dal angen ymarfer!
Croeson ni'n ôl o Sir Fôn i'r tir mawr ac anelu am Gaernarfon – castell arall! Ar ôl crwydro o gwmpas y castell a'r dre a bwyta swper, aethon ni Fethesda, er mwyn gwrando ar Gôr y Penrhyn yn ymarfer.
Diwrnod 5 – Dydd Mawrth, 3 Mehefin
Yn y bore, aethon ni am dro fyny'r Gogarth; roedd hi'n wyntog iawn, iawn!
Roedd y prynhawn yn brysur, gan ein bod ni'n perfformio yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yn y nos. Roedd angen i ni ymarfer cyn ein perfformiad, gan ein bod ni'n disgwyl cynulleidfa o'n ffrindiau o Ohio a thu hwnt.
Ar ôl swper yn Dylan's - oedd gyda llawer o gynnyrch Cymreig arbennig ar y fwydlen i ni - roedd hi'n amser am ein perfformiad. Roedd sawl un yn y gynulleidfa oedd wedi astudio yn Rio Grande.
Mae'r myfyrwyr yn astudio ar amryw o gyrsiau gan gynnwys amaeth, addysg, nyrsio a gwyddoniaeth, ond mae pawb yn aelod o gôr y brifysgol - Grande Chorale. Mae'r côr newydd ail-gychwyn, ac mae'r arweinydd yn awyddus iawn i ddefnyddio'r Gymraeg a threftadaeth Gymreig yr ardal yn yr hyn mae'r côr yn ei wneud.

Dan a'r criw yn Llanfairpwll - mae angen mwy o ymarfer arnyn nhw i ynganu enw cyfan, meddai!
Diwrnod 6 – Dydd Mercher, 4 Mehefin
Roedd yr amser wedi dod i ni adael Llandudno a gwneud ein ffordd i Aberystwyth. Aethon ni'r ffordd hir o Landudno lawr i Aberystwyth, gan deithio trwy Lanberis a heibio'r Wyddfa a chyrraedd Betws y Coed mewn pryd i gael cinio.
Diwrnod 7 – Dydd Iau, 5 Mehefin
Yn y bore, aethon ni i'r Llyfrgell Genedlaethol, lle'r oedd trysorau yn aros amdanom a chlipiau fideo yn yr archif ddarlledu newydd. Roedd pob dim yn berthnasol i hanes Ohio a'r Cymry yn UDA.
I orffen ein bore o ddysgu, cawson ni ddarlith arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Dr Rhun Emlyn am hanes Cymru.
Ar ôl ein hymweliad â'r Llyfrgell Genedlaethol a'n gwibdaith o hanes Cymru, roedd prynhawn rhydd gyda ni i grwydro o gwmpas Aber.
Wrth baratoi at y daith, mi wnaeth sawl un o'r grŵp ddysgu bod ganddyn nhw gysylltiadau â Chymru ar eu coeden deulu, gan gynnwys un oedd yn dathlu'r ffaith ei bod hi'n perthyn i Owain Glyndŵr, felly aeth rhai o'r criw yn ôl i'r Llyfrgell i ymchwilio mwy!
Mae cyswllt wedi bod rhwng Ceredigion ac Ohio ers 1818, pan aeth chwe theulu - 36 o bobl - draw i Ohio, gan obeithio cael ymuno â chymuned a sefydlwyd gan Ezekiel Hughes ac Edward Bebb o Lanbrynmair yn Paddy's Run, Sir Butler, Ohio.
Diwrnod 8 – Dydd Gwener, 6 Mehefin
Roedd heddiw'n ddiwrnod pwysig yn y daith, gan ein bod ni wedi treulio'r p'nawn yn Aberaeron, lle gadawodd y chwe theulu o Gilcennin, ar gwch ar 1 Ebrill 1818 i hwylio i UDA am fywyd newydd yn Ohio.
Yn y Cae Sgwâr yn Aberaeron, mae yna goeden dderw i nodi'r cyswllt rhwng yr ardal yng Nghymru ac ardal Oak hill yn Ohio. Mae yna goeden dderw ar dir yr Amgueddfa Treftadaeth Gymreig Americanaidd yn Oak Hill, Ohio yn nodi'r cyswllt hefyd.

Ger y goeden yn Aberaeron, sydd yn nodi'r cyswllt ag Ohio
Roedd heddiw hefyd yn ddiwrnod arbennig gan ein bod ni wedi perfformio yn Theatr Felinfach gyda Triano, Nel Edwards, a pharti Mish Mash. Gaethon ni'r cyfle i ganu medli gwerin arbennig gyda phawb (gan gynnwys y gynulleidfa) ar ddiwedd y noson.
Diwrnod 9 – Dydd Sadwrn, 7 Mehefin
Erbyn heddiw, roedd lawer o olch gyda ni i wneud, felly treulion ni'r bore yn golchi dillad ac yn cysgu mewn yn hwyr!
Yn y prynhawn, aethon ni am daith i Abaty Ystrad Fflur a Thregaron, gan ddysgu am Henry Richard, ac yna i Langeitho am swper.

Doedd dim posib dod i Gymru heb ymweld â phentref genedigol Dan, Llangeithio
Dw i'n dod o Langeitho yn wreiddiol. Es i allan i Rio Grande am y tro cyntaf yn 2018 ar ôl ennill ysgoloriaeth i fynd i astudio fy ngradd meistr yn y brifysgol, fel rhan o'r ysgoloriaeth, ro'n i'n gweithio yng Nghanolfan Madog yn ystod fy astudiaethau.
Ar ôl graddio, symudais i nôl i Gymru, ond mi wnes i barhau i fod mewn cyswllt â chymuned Gymreig gogledd America, trwy ymarferion Côr Cymry Gogledd America ar-lein, grwpiau sgwrsio a dysgu Cymraeg i bobl dros Zoom yn ystod y cyfnod clo.
Felly pan ddaeth y cyfle i fynd yn ôl fel cyfarwyddwr yn 2023, roedd yn rhaid i fi dderbyn. Mae'r ganolfan yn drysor ac yn hynod o bwysig!
Diwrnod 10 – Dydd Sul, 8 Mehefin
Gorffennon ni ein hamser yng Nghymru trwy aros yng Ngwersyll yr Urdd, Caerdydd. Roedd hi hefyd yn amser i ni ffarwelio i'n gyrrwr bws hoffus, Arron!
Mae'r daith wedi bod yn hollol fythgofiadwy ac yn un arbennig iawn am nifer o resymau. 'Dyn ni wedi cael croeso cynnes ym mhob man, a gan mai hon oedd y daith ryngwladol gyntaf i bron pob un o'r myfyrwyr, mi fydd Cymru wastad yn lle arbennig iddyn nhw - ac mae hynny'n fy ngwneud i'n hapus iawn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd30 Awst 2024
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020