Y Cymro tu ôl i un o gwmnïau wisgi mwyaf America
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Dros y penwythnos (Tachwedd 1-3) roedd gŵyl newydd wedi digwydd yn Llandudno, sef gŵyl wisgi Cymru.
Mae gan Gymru nifer o gysylltiadau gyda byd wisgi - ond beth ydych chi'n ei wybod am gysylltiad Cymru gyda'r diod enwog?
Jack Daniel yw un o enwau mawr y byd wisgi ac mae ganddo gysylltiad gyda Chymru - roedd ei daid yn Gymro ac roedd ei deulu o orllewin Cymru.
Ond nid Jasper Newton 'Jack' Daniel oedd yr unig un â chysylltiadau Cymreig i sefydlu wisgi Americanaidd.
Un o'r bourbons mwya' poblogaidd heddiw yn yr Unol Daleithiau yw Evan Williams, ac mae'r perchnogion hefyd yn dweud mai nhw yw distyllfa hynaf Kentucky.
Mae bourbon yn fath o wisgi sy'n dod o dalaith Kentucky, ac un o'r pethau sy'n ei wneud yn wahanol o wisgi cyffredin yw ei fod wedi ei wneud o gorn (o leiaf 51%).
Yn dechnegol dydy Jack Daniel's ddim yn bourbon, er bod llawer yn gwneud y camgymeriad yma.
Pwy oedd Evan Williams?
Cafodd ei eni yn Dale, Sir Benfro yn 1755, ac mae'n debyg iddo symud i'r Unol Daleithiau yn 1780. Aeth i Jefferson County yn Kentucky, gan setlo yn Louisville.
Wedi iddo gyrraedd Kentucky fe sylwodd Evan bod llawer o gorn a grawnfwydydd ar gael yn yr ardal.
Yn 1783 fe fanteisiodd ar y sefyllfa gan agor distyllfa ger yr Afon Ohio.
Mae'n debyg mai hon oedd distyllfa cyntaf Kentucky, ac roedd Evan yn anfon ei wisgi lawr yr Afon Ohio ar gychod.
Louisville
Roedd Louisville yn ddinas fasnachol bwysig, gyda llawer o draffig yn mynd ar yr Afon Ohio ac ar y trenau drwy'r ddinas.
Roedd gan Williams sawl rôl bwysig ym mywyd cymdeithasol Louisville, gan gynnwys bod yn un o saith ymddiriedolwr y ddinas. Yn ôl y sôn roedd yn dod i bob cyfarfod gyda photel o'i wisgi i'w rannu gyda phawb.
Roedd Evan Williams hefyd yn dipyn o grefftwr, gan weithio fel saer maen. Roedd wedi goruchwylio y gwaith o adeiladu'r carchar a'r llys cyntaf yn Jefferson County, Kentucky.
Bu farw Evan Williams yn Louisville ar 15 Hydref, 1810, ond mae ei enw i'w weld ar boteli bourbon ledled y byd hyd heddiw.
Geirfa
gŵyl / festival
wisgi / whisky
cysylltiadau / connections
orllewin / west
sefydlu / establish
poblogaidd / popular
Unol Daleithiau / United States
perchnogion / owners
distyllfa / distillery
hynaf / oldest
talaith / state
gorn / corn
yn dechnegol / technically
camgymeriad / mistake
grawnfwydydd / cereals
manteisiodd / took advantage
sefyllfa / situation
cychod / boats
ddinas fasnachol / trading city
cymdeithasol / social
ymddiriedolwr / trustee
crefftwr / craftsman
saer maen / stonemason
goruchwylio / supervise
carchar / prison
llys / court
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2024