'Angen cynllun i sicrhau diwygiadau i Dŷ'r Arglwyddi'
- Cyhoeddwyd
Mae angen cynllun i sicrhau bod diwygiadau i Dŷ’r Arglwyddi yn cael eu cyflawni, yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Un o'r addewidion ym maniffesto Llafur oedd diwygio siambr Tŷ’r Arglwyddi, a fyddai’n golygu cael gwared ar y 92 aelod etifeddol sydd yno oherwydd hawl enedigol.
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, maen nhw wedi ymrwymo i ddiwygio, gan gynnwys gosod oed ymddeol ar aelodau a sicrhau cynrychiolaeth decach o wahanol wledydd y DU.
Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno mesur i wneud newidiadau, ond mae rhai o'r farn nad yw'n mynd yn ddigon pell, a bod angen amserlen glir ar gyfer cyflawni'r newidiadau.
“Dyw e ddim yn ddigon i ddweud bo' ni’n mynd i ddiwygio," meddai Carwyn Jones.
"Mae’n hollbwysig fod yna gynllun ar gael sydd yn rhoi’r llwybr tuag y system ddiwygio hynny.
"Dyw hynny ddim yno eto.
“Mae 'na argymhellion wedi eu gwneud gan Gordon Brown a’r comisiwn o'n i'n rhan ohono, ond mae’n bwysig nawr i lenwi mewn y manylion fel bod pobl yn gwybod pa fath o ddiwygio fydd yn digwydd.
“Ar hyn o bryd dyw hynny ddim yn rhywbeth fi wedi meddwl amdano - ma' lot fawr o bethau eraill 'da fi 'neud.”
'Angen amserlen'
Mae dros 800 o aelodau ar feinciau coch Tŷ’r Arglwyddi, gan gynnwys cyn-wleidyddion, arbenigwyr maes, esgobion a rhai a gafodd eu dewis gan brif weinidogion.
Mae pob un yno heb eu hethol yn uniongyrchol gan y cyhoedd, ac mae ganddyn nhw oll sedd hyd at ddiwedd eu hoes.
Ym 1990 fe gyflwynodd y llywodraeth Lafur ddiwygiadau sylweddol, gyda’r prif weinidog ar y pryd, Tony Blair, yn cwtogi nifer yr arglwyddi etifeddol - arglwyddi sydd wedi ennill eu lle oherwydd hawl enedigol - i 92.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae’r prif weinidog newydd â'i fryd ar fynd gam ymhellach a chael gwared ar y rhai sy'n weddill.
Addewid Llafur yw cyflwyno diwygiadau i Dŷ’r Arglwyddi o fewn 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth newydd, gyda mesur eisoes wedi ei gyflwyno i’r Senedd ar 5 Medi.
Ond yn ôl y Farwnes Christine Humphreys, mae angen arweiniad gan y llywodraeth.
“Y broblem ydy, ry'n ni wedi bod yma o’r blaen dros y blynyddoedd.
"Deddfau yn cael eu cynnig ac wedyn mae jyst yn dod i ben ac yn mynd i ffwrdd.
"Mae’n bwysig ac mae angen amserlen."
Prif waith Tŷ’r Arglwyddi yw adolygu deddfwriaeth sy’n cael ei basio gan Dŷ’r Cyffredin, ac mae aelodau yn gallu hawlio £361 y dydd am fod yn bresennol.
Ond mae aelod ieuengaf Tŷ'r Arglwyddi - y Farwnes Carmen Smith, 28 - am gael gwared ar y sefydliad yn llwyr, a dywedodd bod addewidion ym maniffesto Llafur sydd heb eu cyflwyno yn y mesur newydd.
“Pan fi’n edrych ar addewidion maniffesto Llafur ar ddiwygio, dydy’r holl bethau maen nhw wedi dweud am y maniffesto ddim yn y bil hwn," meddai.
"Pethau fel oedran ymddeol neu newid y broses benodi."
Ond mae’n annhebygol y gwelwn ni ddiwygiadau Llafur yn dwyn ffrwyth, yn ôl yr arbenigwr gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
“Mae Llafur wedi addo dro ar ôl tro, ar ôl tro eu bod yn mynd i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi - mae'n hen gri y mudiad Llafur.
"Maen nhw’n gwneud rhai pethau, ond dim llawer o bethau.
“Fydden i’n dychmygu bod y targed o 92 sydd yno oherwydd damwain genedigaethol - mae’n bosib iawn y gwnawn nhw ddileu eu rôl nhw mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
“Ond fyswn i ddim yn dal fy ngwynt am unrhyw newid mwy pellgyrhaeddol na hynny.”
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi, gan gynnwys oed ymddeol gofynnol a chynllun hirdymor o ddiwygio’r siambr a fyddai’n gynrychiolaeth decach o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.
Mae'r diwygiadau arfaethedig gam yn nes at gael eu cyflawni yn dilyn ail ddarlleniad Mesur Arglwyddi Etifeddol yn San Steffan ddydd Llun.