Carmen Smith: Barwnes ieuengaf 'ddim yn cytuno â Thŷ'r Arglwyddi'
- Cyhoeddwyd
Mae'r person ieuengaf i gael eu penodi i Dŷ'r Arglwyddi yn dweud nad ydy hi'n cytuno â'r sefydliad, a'i bod "yn credu mewn Cymru annibynnol".
Cafodd Carmen Smith - fydd eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel Barwnes - ei henwebu gan Blaid Cymru i ymuno â'r ail siambr fel arglwydd am oes.
Gydag unig arglwydd y blaid, Dafydd Wigley, wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol, roedd hi ymhlith 13 o bobl a gafodd eu henwi mewn rhestr o arglwyddi newydd yn hwyr nos Wener.
Yn 27 oed mae Ms Smith - sy'n hannu o Lanfaes ar Ynys Môn - dair blynedd yn ifengach nag yr oedd Charlotte Owen pan gafodd ei hurddo i'r tŷ ar argymelliad y cyn-brif weinidog, Boris Johnson.
'Credu bydd gennym Gymru annibynnol'
Yn siarad ar Radio Wales Breakfast fore Llun fe ddywedodd Carmen Smith ei bod "yn gyffrous iawn" a bod yr alwad i gadarnhau ei phenodiad wedi dod "yn annisgwyl iawn ddydd Gwener".
Ond er "yn edrych ymlaen yn fawr" at yr her o'i blaen, dywedodd: "Dydw i ddim yn cytuno â Thŷ'r Arglwyddi fel y sefydliad ydy o ar hyn o bryd.
"Yn y pen draw rwy'n credu mewn annibyniaeth ac yn ystod fy mywyd rwy'n credu y bydd gennym ni Gymru annibynnol."
Ychwanegodd: "Tra mae'r siambr honno yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl sy'n byw yng Nghymru, mae angen lleisiau Cymreig arnom ni yn y siambr honno.
"Yr oedran cyfartalog yn Nhŷ'r Arglwyddi yw 71, a dynion yw'r rhan fwyaf.
"Rwy'n gwybod y gallai llawer o bobl gwestiynu fy mod yn eithaf ifanc yn mynd i mewn i'r siambr, ond ydyn ni'n hapus gyda'r status quo?
"Rwy'n credu y gallaf gynnig persbectif gwahanol o ran fy mhrofiadau personol fy hun, yn tyfu i fyny fel gofalwr ifanc ar Ynys Môn, a hefyd y gwahanol fathau o rolau rydw i wedi'u chwarae wrth ymgyrchu dros addysg, datblygiad rhyngwladol a materion amgylcheddol."
'Plaid o gydraddoldeb'
Cadarnhaodd nad oedd hi wedi dewis ei henw yn y siambr, nac ychwaith ei bod "yn ei ystyried yn swydd am oes."
Pan ofynwyd iddi am broses y blaid o'i dewis - gydag adroddiadau fod Elfyn Llwyd wedi sicrhau mwy o bleidleisiau na hi mewn etholiad mewnol - dywedodd fod Plaid Cymru "yn blaid o gydraddoldeb".
"Ers sawl blwyddyn fel aelodau rydym wedi arfer cael etholiadau mewnol sy'n dilyn proses debyg o roi merched ar frig y rhestr, er enghraifft etholiadau'r Senedd lle mae merched wedi bod ar frig y rhestrau rhanbarthol.
"Cafodd yr holl ymgeiswyr wybod o'r cychwyn beth fyddai'r broses, edrychwch ar y siambr, mae o'n 70% dynion.
"Mae pleidiau yn rhoi donors neu ffrindiau ymlaen, 'da ni yn trio gwneud pethau'n wahanol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2022