Achosion o'r feirws Tafod Glas mewn tair dafad yng Ngwynedd

- Cyhoeddwyd
Mae’r feirws Tafod Glas wedi cael ei ganfod mewn tair dafad sydd wedi’u symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.
Dyma'r tro cyntaf i'r math 3 o'r Tafod Glas gael ei ddarganfod yng Nghymru.
Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus a phrynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel.
Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu gan rai mathau o wybed sy'n brathu, ac yn effeithio ar anifeiliaid fel gwartheg, geifr, defaid, ceirw, alpacas a lamas.
Nid yw’n effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Gavin Watkins: "Byddwn yn rhoi mesurau ar waith i atal y clefyd rhag lledaenu o’r tair dafad yma, a’n nod ni o hyd yw cadw Cymru’n rhydd o’r tafod glas.
“Mae’n bwysig siarad ȃ’ch milfeddyg, a phrynu anifeiliaid o ffynonellau diogel er mwyn diogelu ein buchesau a’n heidiau ac atal unrhyw ymledu pellach ar y clefyd allan o Gymru.”
Ychwanegodd: "Byddwn yn annog pob ffermwr a phawb arall sy'n cadw anifeiliaid cnoi cil a chamelidau i gadw llygad am arwyddion o’r tafod glas."

Mae'n bosib i wybed mân heintio da byw gydag un brathiad
Mae achosion o BTV-3 wedi eu canfod yn nwyrain Lloegr dros y mis diwethaf.
Dywedodd Is-Lywydd yr undeb amaeth NFU Cymru, Abi Reader, bod hi'n "hanfodol ein bod oll yn parhau'n wyliadwrus rhag yr haint".
Ychwanegodd bod angen i ffermwyr gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn syth "os oes unrhyw bryderon y gallai'r clefyd fod ar eich fferm".