'Profiad arbennig' dysgwr Cymraeg 12 oed o Slofacia yn yr Eisteddfod

Mae Matko - canol, yma gyda'i deulu - wedi bod yn cymryd rhan mewn gwersi Cymraeg ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae cael siarad Cymraeg ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd wedi bod yn “brofiad cwbl arbennig” medd bachgen 12 oed o Slofacia.
Mae Matko yn byw yn Poprad, yn nwyrain Slofacia, ac yn ogystal â siarad Cymraeg mae e wedi cael cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb â'i athrawes Cymraeg ar faes y Steddfod.
Sioned Rees Jones wnaeth sefydlu Ysgol Sadwrn yn 2023, ac mae yn cynnig dosbarthiadau Cymraeg rhyngwladol ar-lein i blant.
Wrth siarad â Cymru Fyw ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Sioned ei bod wrth ei bodd yn cyfarfod Matko.
“O’dd hi mor wych bod bachgen sydd wedi bod yn dod i Ysgol Sadwrn ers y cychwyn cyntaf wedi dod i’r Eisteddfod ac i ni gael cyfarfod wyneb yn wyneb, gyda’i dad.
"Mae wedi teithio yma ar wyliau, dod i Gaerdydd ac yna treulio deuddydd yn yr Eisteddfod."

Dywedodd Matko fod dod i'r Eisteddfod yn "brofiad cwbl arbennig"
Mae Matko wedi dod i’r Eisteddfod gyda’i dad Andrew Dixey sy'n wreiddiol o Gasnewydd.
Wedi dysgu Cymraeg ei hun, mae'n dweud fod ymweld â'r maes wedi gwella Cymraeg Matko yn aruthrol.
“Mae’n gallu bod yn faich arno fe i jest siarad gyda fi o hyd," meddai.
"Felly, mae’n neis iddo fe gael siarad Cymraeg gydag eraill, ac mae wedi gwella’n rhyfeddol.”
Erbyn hyn mae Andrew yn hyderus y bydd Matko yn cadw ei Gymraeg.
“Rwy’n creu bod e wedi pasio’r bont honno - chwech i wyth oed yw’r bont medden nhw ac os wyt ti’n parhau gyda’r iaith ar ôl hynny, mae hi yn aros ynot ti, er efallai yn sigledig.”

Mae tad Matko, Andrew Dixey o Gasnewydd, wedi dysgu Cymraeg ei hun
Ychwanegodd Sioned Rees Jones bod gallu dysgu ar y we yn gweithio'n dda er mwyn pasio'r Gymraeg i fwy o bobl.
“Dwi’n credu mai un fantais sydd wedi dod allan o anfantais fawr Covid yw bod pobl wedi derbyn ac wedi gweld bod pethau yn gallu gweithio ar y we," meddai.
"Does dim rhaid i bob dim fod wyneb yn wyneb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2023