Glowyr o Gymru'n galw am ryddhau £2.3bn o gronfeydd pensiwn
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-lowyr o Gymru yn annog Llywodraeth y DU i ryddhau £2.3bn o gronfeydd eu cynllun pensiwn fel y gellir ei dalu i bensiynwyr.
Rhyddhaodd y llywodraeth yr arian cyfatebol o Gynllun Pensiwn y Glowyr (MPS) yn y gyllideb ym mis Hydref.
Ond mae'r arian ar gyfer y rhai sydd yn rhan o gynllun pensiwn arall - Cynllun Pensiwn Staff Glo Prydain (BCSSS) - wedi ei rewi o hyd.
Mae Adran Ynni a Net Sero Llywodraeth y DU yn dweud eu bod am drafod y mater gyda'r Trysorlys.
'Dwyn arian' gan y glowyr
Mae'r cyn-löwr Wayne Pedrick, 64, o Wauncaegurwen yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn un o 4,048 o bobl allai gael eu heffeithio yng Nghymru.
Mae'n dweud bod y llywodraeth wedi "dwyn arian" gan y glowyr drwy beidio â thrin y ddau gynllun yn yr un modd.
Roedd Mr Pedrick yn gweithio ym mhwll glo Betws yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin tan y flwyddyn 2000.
Roedd yn talu mewn i'r cynllun MPS yn gyntaf, cyn iddo gael dyrchafiad yn oruchwylydd, pan ddechreuodd dalu mewn i gynllun BCSSS.
"Mae'r arian MPS yn gwneud gwahaniaeth o ryw £100 y mis. Sydd yn lot o arian," meddai.
"Dylen ni gael yr un peth â beth mae'r MPS wedi cael.
"O'n ni dan ddaear yn gweithio'n galed. Mae dim ond yn deg bod ni'n cael e nôl."
Mae Mr Pedrick yn poeni y gallai nifer o gyn-lowyr "golli mas" ar yr arian os nad yw'r llywodraeth yn ei ryddhau yn fuan.
"Mae rhaid ti feddwl am oedran ni hefyd. Ma' lot o'r bois lot yn henach na fi," meddai.
"Maen nhw'n meddwl bod tua phedwar neu bump o'r bois yn marw pob wythnos, felly nagyn ni'n mynd i weld hwnna os nagyw nhw'n siapo - mae lot o bobl mynd i golli mas.
"Mae cost of living crisis - mae wir eisiau'r arian arno' ni. Arian ni yw e."
'Ein harian ni yw e'
Mae maniffestos blaenorol y blaid Lafur wedi dweud y byddai pensiynau'r MPS a'r BCSSS yn cael eu rhyddhau.
Fodd bynnag, dim ond yr MPS a gafodd ei grybwyll ym maniffesto 2024.
Mae ymddiriedolwr cynllun pensiwn BCSSS, Bleddyn Hancock yn dweud ei fod yn credu mai camgymeriad oedd hyn, ond camgymeriad sydd angen ei gywiro ar frys.
"Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni'n teimlo'n gryf iawn amdano," meddai.
"Rydyn ni wedi ennill yr arian hwn - rydyn ni wedi gorfod ymladd am yr arian.
"Rydyn ni wedi dioddef drosto, rydyn ni wedi gwaedu amdano ac rydyn ni wedi marw drosto.
"Ein harian ni yw e ac rydyn ni am i'r llywodraeth ddod â'r anghyfiawnder hwn i ben a dychwelyd ein harian i ni."
Dywed Mr Hancock y byddai'r arian yn cynyddu pensiynau'r rhai sydd yn y cynllun BCSSS tua 50%, ar adeg pan fo nifer yn cael trafferthion gyda chostau byw.
"Rydyn ni i gyd yn hen. Dydyn ni ddim yn arbed arian am y dyfodol," meddai.
"Mae angen yr arian nawr. Byddai pobl yn gwario'r arian hwnnw a byddent yn ei wario yn eu cymunedau lleol, sydd ar y cyfan yn ardaloedd glofaol sy'n eithaf digalon.
"Byddai'n hwb mawr i'r economi leol yn ogystal â'r unigolion."
'Rhoi terfyn ar yr anghyfiawnder'
Fe wnaeth ymddiriedolwyr y BCSSS gyfarfod â gweinidog diwydiant Llywodraeth y DU, Sarah Jones yn ddiweddar.
Dywed Bleddyn Hancock y bu'n gyfarfod cadarnhaol.
"Roedd hi'n cydymdeimlo'n fawr, ac rwy'n meddwl y byddai'n hoffi newid y sefyllfa," meddai Mr Hancock.
"Fodd bynnag, mae'r mater nawr gyda'r Trysorlys ac rydym yn aros am eu cymeradwyaeth, a gobeithio y byddwn yn ei gael.
"Ond nid yw'n fargen sydd wedi'i chwblhau, felly gorau po fwyaf o bwysau a roddwn ar y llywodraeth i roi terfyn ar yr anghyfiawnder hwn."
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2016
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diogelwch, Ynni a Net Sero Llywodraeth y DU: "Mae Cynllun Pensiwn Glo Prydain yn gweithredu mewn ffordd wahanol i Gynllun Pensiwn y Glowyr, fel y cytunwyd gydag ymddiriedolwyr y cynllun.
"Fe wnaeth y Gweinidog [Sarah] Jones gwrdd ag ymddiriedolwyr y BCSSS yn ddiweddar ac mae wedi ymrwymo i siarad â'r Trysorlys am eu cynigion.
"Nid yw'r llywodraeth wedi cymryd unrhyw arian o'r cynllun ers 2015. Mae'r gorwerth hwnnw i gyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu pensiynau'r dyfodol yn unig."