Difrod sylweddol i do ysbyty yn argyfwng i fwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiad o argyfwng wedi ei gofnodi mewn ysbyty yn ne Cymru wedi iddi ddod i'r amlwg bod difrod mawr i do'r adeilad.
Mae arolwg wedi canfod fod angen gwaith adnewyddu sylweddol ar do Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi i law achosi difrod.
Dyw staff ddim eto'n gwybod beth yw effaith y difrod ar y cleifion.
Ar hyn o bryd y cyngor yw mynychu apwyntiadau oni bai fod aelod o staff y bwrdd iechyd yn cysylltu yn uniongyrchol i ddweud yn wahanol.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod ardal gyfan y bwrdd iechyd yn cael ei defnyddio i ofalu am gleifion.
Mae hyn yn cynnwys sawl ysbyty arall a chanolfannau llai yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Blaenoriaeth yw 'diogelwch ein staff a'n cleifion'
Mewn llythyr at aelodau o'r staff, dywedodd y prif weithredwr fod y sefyllfa yn "fater mwy difrifol na chwteri wedi blocio".
"Roedd rhan fwyaf o'r to wedi ei adeiladu dros 40 o flynyddoedd yn ôl, ac mae technegau a deunyddiau wedi datblygu'n eithriadol ers hynny," meddai.
Mewn datganiad ar wefan y bwrdd iechyd, ychwanegodd Paul Mears: "Ein blaenoriaeth yw diogelwch ein staff a'n cleifion ar y safle, ac rydym yn gweithredu ar unwaith i sicrhau fod y to, sy'n fwy na 40 oed, yn cyrraedd safon dderbyniol.
"Rydym yn gwerthfawrogi fod y sefyllfa yn peri gofid ac yn amharu ar gleifion a'u teuluoedd, ond rydym wedi ymrwymo i roi cynlluniau ar waith er mwyn sicrhau fod ein cleifion yn parhau i dderbyn gofal yn ddiogel."
Aeth ymlaen i ddweud y bydd rhai gwasanaethau yn cael eu cynnal ar safleoedd eraill o fewn y bwrdd iechyd.
Dywedodd nad yw symud cleifion yn rhywbeth newydd.
Ychwanegodd fod y staff "wedi arfer ag ymateb yn sydyn" er mwyn sicrhau gofal i'r cleifion mewn cyfnodau heriol.