Pwysau ar y system ADHD dal yn 'enfawr' er yr arian ychwanegol

Mali gyda gwallt hir brown yn gwenu
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Mali sylwi ar ei phroblem gydag ADHD tua thair blynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen sy'n lobïo dros bobl ag ADHD yn dweud mai "plastr" yn unig yw arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i nifer y bobl ifanc sy'n gofyn am ddiagnosis o ADHD yng Nghymru dreblu yn y ddwy flynedd nesaf.

Dywed gweinidogion y gallai dyfu i gymaint â 61,000 erbyn 2027, o gymharu â 27,770 y llynedd.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei bod wedi rhoi £3m yn ychwanegol i'r system i gyflymu pethau.

'Dros bob man'

Mae Mali yn 16 oed ac yn byw gyda'i theulu ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd.

Dechreuodd sylwi ar ei phroblem gydag ADHD tua thair blynedd yn ôl.

Ond bu'n rhaid iddi aros dwy flynedd a hanner cyn cael ei gweld gan arbenigwr.

Mae'n gyflwr cymhleth, ond gall pobl ag ADHD ymddwyn yn fyrbwyll, ymddangos yn aflonydd neu gael trafferth canolbwyntio.

Roedd bod yn yr ysgol yn gyfnod anodd, meddai Mali.

"Allwn i ddim eistedd mewn dosbarth am awr gyfan, a chanolbwyntio'n syth ar y bwrdd. Roeddwn i dros bob man.

"Mae fy meddwl yn mynd can milltir yr awr pan fod rhywun yn siarad."

Er ei bod hi wedi cael diagnosis, bydd rhaid i Mali aros tan fis Ebrill neu fis Mai am asesiad arall cyn iddi gael meddyginiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Natalie, mam Mali, byddai meddyginiaeth wedi ei helpu i ganolbwyntio yn yr ysgol

Mae ei mam, Natalie, yn dweud bod hynny yn warthus.

"Dwi'n reit grac am y peth. Mae wir yn effeithio arni hi o ddydd i ddydd. Mae ei haddysg wedi dioddef yn fawr.

"Doedd hi ddim yn gallu canolbwyntio yn yr ysgol, ac 'wy'n gwybod o siarad â rhieni eraill a darllen llawer mwy arno, y byddai'r feddyginiaeth wedi ei helpu i ganolbwyntio."

'Pwysau ar y system dal yn enfawr'

Yn ôl gweinidogion mae disgwyl i nifer y bobl ifanc sy'n chwilio am ddiagnosis ar gyfer awtistiaeth neu ADHD dreblu, o 20,770 yn 2024 i hyd at 61,000 erbyn 2027.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan wrth y Senedd ddydd Mawrth: "Rydym yn ymwybodol iawn bod yr amseroedd aros ar gyfer asesiadau niwrolegol plant yn rhy hir.

"Dyna pam, ym mis Tachwedd, y gwnaethon ni gyhoeddi £3m ychwanegol i gyflymu'r asesiadau hynny.

"Rydyn ni'n gwybod bod angen gwneud mwy a bod y galw yn mynd drwy'r to, felly mae'n rhaid i ni feddwl yn ofalus ac yn greadigol am sut rydyn ni'n gwneud yr asesiadau hyn mewn ffordd wahanol."

Yn ôl cadeirydd elusen ADHD UK, Henry Shelford, mae angen agwedd gwahanol a "newid systemig".

"Mae angen inni uwchraddio'r gwasanaeth ar gyfer y grŵp yma o bobl, felly mae mwy o arian, er y gallai fod yn wleidyddol swnio'n hyfryd, ac a fydd yn bwysig o ran symud rhai pobl drwodd, yn golygu bod gynnon ni'r un broblem o hyd unwaith y bydd wedi'i wario.

"Dim ond plastr glynu yw e."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi buddsoddi mwy na £15m i wella amseroedd aros a gwasanaethau niwroddargyfeirio ers 2022.

"Mae ein Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Niwrogyfeirio yn cael ei gyd-gadeirio gan yr Athro Anita Thapar, sydd hefyd yn eistedd ar fwrdd Rhaglen ADHD y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

"Mae'r grŵp yn darparu cyngor arbenigol ar bolisïau ADHD, gwasanaethau a phrofiad cleifion sy'n ein galluogi i rannu arfer da ar draws y ddwy lywodraeth."

Pynciau cysylltiedig