Geraint Thomas yn debygol o rasio am y tro olaf yng Nghymru

Bydd Geraint Thomas yn dod â'i yrfa i ben ar ddiwedd y tymor
- Cyhoeddwyd
Bydd Geraint Thomas yn cael cyfle i orffen ei yrfa seiclo yn ei famwlad ar ôl i drefnwyr y Tour of Britain gyhoeddi y bydd y ras yn gorffen yng Nghymru eleni.
Y gred yw mai dyma fydd ras olaf Thomas, sydd wedi ennill y Tour de France a dwy fedal aur Olympaidd mewn gyrfa ddisglair.
Bydd Thomas, sy'n 39 oed ac yn reidio i dîm Ineos, yn cwblhau ei Tour de France olaf penwythnos nesaf.
Ond bydd ei ddigwyddiad olaf yn cyrraedd uchafbwynt yn ne Cymru fis Medi.
Bydd cymal pump o'r Tour of Britain yn digwydd ddydd Sadwrn, 6 Medi, gan ddechrau ym Mhont-y-pŵl cyn dilyn llwybr drwy Sir Fynwy.
Bydd y chweched cymal - a'r olaf - yn cael ei gynnal y diwrnod canlynol, gan gychwyn o Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd.
Yna bydd y llwybr yn mynd heibio Felodrom Maendy – cartref Clwb Seiclo Maindy Flyers, lle cychwynnodd Thomas ei yrfa – cyn gorffen yng nghanol dinas Caerdydd.
Bydd y Tour of Britain yn dechrau ar 2 Medi yn Suffolk.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror