Geraint Thomas i ymddeol o seiclo ar ddiwedd y tymor

Geraint Thomas yn chwifio'r Ddraig Goch ar dop podiwn y Tour de France yn 2018
- Cyhoeddwyd
Mae Geraint Thomas - cyn-enillydd y Tour de France a seiclwr mwyaf llwyddiannus Cymru - wedi cadarnhau y bydd yn ymddeol o'r gamp.
Bydd Thomas, sy'n 38 oed, yn dod â'i yrfa ddisglair i ben ar ddiwedd y tymor.
Enillodd ddwy fedal aur Olympaidd, tri theitl Pencampwriaeth y Byd, nifer o rasys ffordd a gwobr fwyaf oll y gamp, y Tour de France, yn 2018.
Wrth iddo arwyddo ei gytundeb Ineos Grenadiers diweddaraf yn 2023 roedd yna awgrym y byddai'n ymddeol ddiwedd eleni.
"Ers oeddwn i'n blentyn roeddwn i'n breuddwydio am reidio'r Tour ac roedd bod yn rhan o'r Gemau Olympaidd ac ennill yn amlwg yn freuddwyd hefyd, ond roedd cyflawni hynny'n anhygoel," meddai Geraint Thomas wrth siarad â'r BBC.
"Nawr bod y penderfyniad yn swyddogol fi'n credu fy mod i'n dechrau myfyrio ar bethau oherwydd pan fyddwch chi'n yn ei chanol hi - mae'n un ras ar ôl y llall, flwyddyn ar ôl blwyddyn, felly nid ydych chi'n gwerthfawrogi [yr hyn sydd wedi digwydd].
"Ar y pryd ry'ch chi'n mwynhau ond dwi ddim yn meddwl eich bod chi'n eistedd yn ôl ac yn myfyrio a meddwl, felly bydd ychydig o hynny yn digwydd eleni."
'Gwella wrth aeddfedu'
Yn ôl y sylwebydd seiclo Peredur ap Gwynedd, Geraint Thomas ydy "un o mabolgampwyr mwyaf Cymru - falle y mabolgampwr mwyaf erioed".
Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd: "Beth wnaeth e, ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd yn y team pursuit 2008, un arall yn 2012.
"O'dd neb yn meddwl bydde fe'n mynd mlaen i 'neud rasys mwy nag un diwrnod fel y Tour de France... a wedyn yn 2018, nath e ennill y ras ei hun."

Geraint Thomas yn cystadlu yn y Tour de France y llynedd
Ychwanegodd Peredur ap Gwynedd fod Thomas wedi "gwella wrth iddo fe aeddfedu".
"Fel arfer ma' lot o reidwyr seiclo, unwaith ma' nhw'n bwrw 32 oed mae'r gyrfa'n gorffen ond yn 32, nath e ennill y Tour de France - o'dd e'n amryddawn iawn.
"Ma' fe'n anelu am y Tour de France eto - dyw e ddim yn anelu am ennill e ond mynd i helpu'r tîm mae e, ond nath e sôn falle bydde fe'n 'neud y Tour of Britain.
"Dydyn ni heb weld y cwrs eto, dyw hynny heb gael ei ddatgelu ond dychmygwch os bydde'r Tour of Britain yn gorffen yng Nghaerdydd eleni a Geraint yna ar strydoedd Caerdydd!"
'Dysgu Cymraeg ar ben y rhestr'
Dywedodd tad yng nghyfraith Geraint, Eifion Thomas, ei fod yn "hapus bod Ger wedi cael gwneud y penderfyniad ei hun".
"Mae o'n fywyd caled tu hwnt," meddai. "'Da ni'n gweld tu ôl i'r lleni a gweld be sy'n digwydd go iawn, the highs and the lows, ac mae'r uchelfannau yn uchel iawn ac mae'r lows yn y dyfnderoedd hefyd, felly ma' 'na lot yn mynd ymlaen.
"Ond mae o wedi mwynhau, ac mae o wedi cael y cyfleoedd mwya' ffantastig ar ôl gyd o'r gwaith caled mae o wedi rhoi fewn."

Geraint Thomas a'i wraig Sara yn dathlu ar ôl cymal 20 o'r Tour de France yn 2018
Ychwanegodd fod ymddeoliad yn galluogi Geraint i droi ei olygon at ddiddordebau a heriau newydd.
"Ar ben y rhestr bydd dysgu Cymraeg," meddai Eifion Thomas.
"Bydd Macsen [y mab] yn dod 'nôl adre gyda Sara a Ger a bydd o'n mynd i ysgol Gymraeg a dyna'r cyfle i Ger ddysgu siarad Cymraeg.
"Mae'n hogyn ffein iawn, mae'n bleser i gael o gwmpas.
"Ni 'di bwcio fel teulu i fynd i sgïo flwyddyn nesa, felly dyna'r tro cynta i Ger mynd i sgïo gyda'r plant, gyda'r teulu. Felly pethau fel 'na bydd o'n braf cael Ger o gwmpas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2024
- Cyhoeddwyd25 Mai 2024
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2024