Dyn o Gwmbrân wedi marw ar ôl i 'fanister grisiau dorri' yn Lanzarote

Llun o du allan y fflatiauFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe gwympodd Darren Silcox o uchder ym mloc o fflatiau Galeon Playa yn Lanzarote

  • Cyhoeddwyd

Mae llys y crwner wedi clywed bod dyn o Gwmbrân wedi marw ar ôl cwympo o uchder pan dorrodd banister grisiau mewn bloc o fflatiau yn Lanzarote.

Roedd Darren Silcox, o Bontnewydd, ar wyliau gyda'i deulu ac yn aros yn Galeon Playa Apartments yn ardal Costa Teguise fis diwethaf.

Fe glywodd cwest i'w farwolaeth bod Mr Silcox wedi cwympo o risiau aml-lawr "ar ôl i fanister pren syrthio" yn ystod oriau mân 25 Hydref.

Cafodd yr awdurdodau a pharafeddygon eu galw i'r safle ond cafodd ei nodi yn y cwest ei fod wedi marw am 03:30.

Map o LanzaroteFfynhonnell y llun, Google

Fe glywodd Llys Crwner Gwent fod yr awdurdodau lleol yn cynnal ymchwiliad i'w farwolaeth.

Dywedodd y Crwner Ardal, Rose Farmer, bod ymchwiliadau rhagarweiniol yn awgrymu bod Mr Slicox "wedi marw yn dilyn anafiadau trawmatig i'r ymennydd oherwydd cwymp, toriadau penglog a rhwygiadau penglog".

Wrth roi teyrnged i Darren Silcox dywedodd cynghorydd Sir Torfaen, David Daniels ei fod "yn berson hyfryd" ac roedd "Darren a'i wraig wrth galon y gymuned".

Siop
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Darren Silcos yn rhedeg siop yng nghanol y gymuned meddai'r cynghorydd David Daniels

"Roedd Darren a'i wraig [Kim] wedi rhedeg y siopau [Premier] am ddegawdau" meddai Mr Daniels.

"Byddai pawb sydd wedi tyfu i fyny yn yr ardal yn adnabod y siopau ac roedden ni'n galw heibio yno bob dydd ar ôl ysgol.

"Roedd e'n garedig iawn i ni ac yn hael iawn."

Ychwanegodd y cynghorydd bod teulu Mr Silcox wedi dioddef colled enfawr fis Mehefin diwethaf pan fu farw ei wraig Kim Silcox yn sydyn.

"Mae'r ffaith bod Darren Silcox wedi marw blwyddyn ar ôl i Kim farw yn ofnadwy, ac mae ein meddyliau gyda'i blant, Connor ac Ellie."

Mae'r cwest wedi'i ohirio a bydd gwrandawiad llawn ar 20 Gorffennaf 2026.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig