'Mae'r farchnad fêps anghyfreithlon yn fwy na niwsans'

Fêps anghyfreithlon a gafodd eu canfod gan yr heddlu mewn siop yng Nghasnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Canran o'r fêps anghyfreithlon a gafodd eu canfod gan yr heddlu mewn siop yng Nghasnewydd yn ystod cyrch diweddar

  • Cyhoeddwyd

Mae gwerth bron i £2m o fêps a thybaco anghyfreithlon wedi eu meddiannu yn ne ddwyrain Cymru mewn ychydig dros flwyddyn, wrth i'r heddlu daclo problem maen nhw'n dweud sy'n tyfu.

Dros y 15 mis diwethaf mae Heddlu Gwent ac adran safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd wedi meddiannu 330,000 o sigarets anghyfreithlon, a 23,000 teclyn fêpio.

Mae gan lawer o'r llefydd y cafwyd hyd i ddeunydd gysylltiadau gyda giangiau troseddol, yn ôl swyddogion, gyda gwerthiant fêps anghyfreithlon yn helpu i ariannu troseddau fwy difriol.

Mae pryder hefyd am yr effaith ar iechyd pobl ifanc, gyda rhai fêps yn cynnwys llawer mwy o nicotin na'r trothwy cyfreithiol, ac eraill yn cynnwys sylweddau canabis.

'Ariannu trosedd ar raddfa fwy'

Ers lansio ym mis Hydref 2023, mae Operation Firecrest wedi arwain at rybuddion cau yn erbyn dros 50 o leoliadau yn ardal Casnewydd, oedd yn gwerthu fêps a thybaco anghyfreithlon.

Mae'n gallu cynnwys nwyddau ffug sydd wedi'u masnachu'n anghyfreithlon, rhai gyda lefel uwch o nicotin nag sy'n gyfreithiol, neu sy'n cynnwys sylweddau anhysbys.

Mae'r rheiny sy'n elwa o'r fasnach hefyd yn bryder, meddai'r Prif Arolygydd Stevie Warden.

"Mae'n cael ei ddefnyddio i ariannu trosedd ar raddfa fwy, grwpiau trosedd trefnol yn gweithio gyda'i gilydd, defnyddio'r arian maen nhw'n ei gael o'r fêps a thybaco, wedi'i werthu'n anghyfreithlon mewn siopau neu stondinau marchnad, i ddenu pobl ifanc," meddai.

"Os 'dych chi'n meddwl mai niwsans yn unig yw hyn, mae'n fwy na hynny.

"Petai'r £2m yna... yn mynd i'r grwpiau troseddol, byddai'n cael effaith fawr ar bobl yn ein cymuned."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd BBC Cymru yn dyst i gyrch diweddar yng Nghasnewydd oedd yn rhan o Operation Firecrest

Cafodd BBC Cymru eu gwahodd ar ymweliad diweddar, wrth i swyddogion archwilio siop fêps yng Nghasnewydd lle roedden nhw'n amau y byddai nwyddau anghyfreithlon.

Yno, fe ddaethon nhw o hyd i ddwsinau o fêps anghyfreithlon wedi'u cuddio mewn silffoedd ffug, yn y siop ei hun ac mewn ystafell gefn.

Yn ôl y swyddog cymorth cymunedol (SCCH) Clare Montgomery-Brown, mae rhai ymweliadau yn fwy llwyddiannus na'i gilydd.

"Fel arfer 'dyn ni yn dod o hyd i fêps a thybaco anghyfreithlon," meddai. "Dydyn nhw ddim yn weledol, maen nhw'n glyfar iawn.

"Beth 'dyn ni'n ei weld nawr yw eu bod nhw'n fwy cyfrwys, o ran ble maen nhw'n eu cuddio."

Disgrifiad o’r llun,

Dau sy'n rhan o'r ymdrechion i atal masnachu fêps a thybaco anghyfreithion - y swyddogion cymorth cymunedol (SCCH) Clare Montgomery-Brown a Mark Watts

Profiad gohebydd

Mewn sesiwn friffio yng Ngorsaf Heddlu Pilgwenlli, mae'r swyddogion yn cael gwybod y byddan nhw'n ymweld â thri lleoliad yng Nghasnewydd i gyd ar unwaith, er mwyn lleihau'r risg fod y perchnogion yn cael rhybudd.

Rydyn ni'n ymuno â'r tîm mwyaf, wrth iddyn nhw yrru draw i un siop fêps sy'n cael ei hamau o fod â nwyddau anghyfreithlon.

Wrth gyrraedd, mae dyn yn ysmygu y tu allan. Mae'n dweud nad oes llawer o Saesneg ganddo, a'i fod yn gofalu am y siop i ffrind.

Mae dynes sy'n ymddangos eiliadau'n ddiweddarach hefyd yn dweud wrth swyddogion ei bod hi'n helpu, ond nad hi yw'r perchennog.

Mae'r swyddogion heddlu a safonau masnach yn chwilio'r ystafell gefn dywyll, ond prin yn dod o hyd i unrhyw beth oni bai am un bag o sigaréts wedi'i guddio yn y to.

Yna, ar ôl 15 munud, gwaedd o'r cefn gan Clare - mae hi wedi dod o hyd i dri drôr wedi'u cuddio o dan y silffoedd, a dwsinau o fêps sy'n cael eu hamau o fod yn anghyfreithlon.

Wrth i'r dystiolaeth gael ei rhoi mewn bagiau i'w cludo i ffwrdd, mae ei chydweithiwr Mark yn darganfod llond llaw arall yn y brif siop.

O rwystredigaeth i ryddhad - ymweliad sydd wedi'i gyfiawnhau gan y swm maen nhw wedi ei ganfod.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr heddlu o hyd i'r droriau cudd yma, oedd â fêps anghyfreithlon

Yn dilyn yr ymweliad, mae tîm safonau masnach y cyngor yn parhau gyda'u hymchwiliad i'r siop.

Ni chafodd unrhyw gamau eu cymryd yn erbyn y ddau unigolyn oedd yno ar y pryd, ac mae'r SCCH Mark Watts yn cyfaddef ei bod hi'n gallu bod yn "anodd" dod o hyd i bwy yn union sy'n gyfrifol am y deunydd.

"Mae 'na lawer o waith sy'n mynd tuag at ddod o hyd i bwy sydd berchen y siopau," meddai.

"Rydyn ni'n gwneud y gwaith cefndirol i gysylltu'r bobl yna gyda'r wybodaeth sydd gennym ni, ac yna mae'r gwaith hir dymor yn parhau o ran mwy o ymweliadau, mwy o lefydd yn cael eu cau, ac yn y diwedd, mwy o erlyniadau."

'Cymryd mantais o'r ifanc a'r bregus'

Mae'n ymweliad llwyddiannus o safbwynt y cyngor, wrth iddyn nhw geisio sicrhau bod masnachwyr y ddinas yn dilyn y gyfraith.

"Yr effaith mae hyn yn ei gael yw llai, neu dim, gwerthiant i bobl ifanc," meddai Steven Hay, Prif Swyddog Safonau Masnach Cyngor Dinas Casnewydd.

"Yn amlwg mae problem unwaith mae person ifanc yn mynd yn gaeth i dybaco, mae hwnna'n broblem hir dymor wedyn."

Disgrifiad o’r llun,

Steven Hay, Prif Swyddog Safonau Masnach Cyngor Dinas Casnewydd

Mae Heddlu Gwent yn rhannu'r pryderon hynny, yn ogystal â phoeni am y risg o dynnu rhai pobl ifanc i mewn i'r grwpiau troseddol yn y pen draw.

"Maen nhw'n cymryd mantais o blant neu bobl fregus drwy roi fêps iddyn nhw, neu ddod â nhw mewn i'r giangiau troseddol," meddai'r Prif Arolygydd Warden.

"A defnyddio'r tactegau yna… un ai i werthu'r canabis, neu i dorri'r gyfraith mewn ffyrdd eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Bag llawn tystiolaeth wedi'r cyrch - ond dyw hi ddim wastad yn bosib cadarnhau pwy sy'n berchen ar y siopau sy'n gwerthu fêps anghyfreithlon

Mae pryderon iechyd ehangach hefyd, gyda swyddogion yn dweud bod rhai fêps sydd wedi'u canfod yn cynnwys 25 gwaith y lefel cyfreithiol o nicotin, tra bod sylweddau canabis wedi'u canfod mewn eraill.

"Os ydych chi wedi gweld teclynnau fêpio yn ddiweddar, maen nhw'n bendant wedi eu hanelu at y farchnad ifanc, felly allwn ni ddim beio plant am gael eu dal i fyny yn y storm farchnata yma," meddai Suzanne Cass, prif weithredwr elusen gwrth-ysmygu ASH Cymru.

"Mae'r marchnata wedi dod â phlant i rywle ble mae'r deunyddiau'n edrych yn ddeniadol. Maen nhw ar gael ar ein stryd fawr. Maen nhw'n rhad."

Disgrifiad o’r llun,

Gan fod fêps yn ddeniadol i bobl ifanc mae pryder y gallen nhw ddioddef yn sgil y farchnad anghyfreithlon

Gydag un o bob pedwar plentyn wedi rhoi cynnig ar fêpio, meddai Ms Cass, a 7% yn gwneud hynny'n "gyson", mae angen cymryd camau.

"Un o'r ffyrdd gorau o wneud hynny yw i edrych ar reoleiddio, a dyna pam mae gweithredu gan yr heddlu mor bwysig," meddai.

"Bydd hynny'n helpu i yrru troseddwyr allan o'n cymunedau, ac atal plant rhag cael gafael ar y deunyddiau anghyfreithlon yma."