Gwahardd fêps tafladwy a chodi oedran ysmygu yn y DU
- Cyhoeddwyd
Bydd fêps tafladwy yn cael eu gwahardd, a neb sydd wedi eu geni ar ôl 2008 yn gallu prynu tybaco yn gyfreithlon, dan gynlluniau llywodraethau Cymru a'r DU.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y llynedd eu bod eisiau gwahardd fêps sydd ond yn cael eu defnyddio unwaith, ond doedd gan Gymru mo'r grym i wneud hynny ar ei phen ei hun.
Roedd wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithredu, ac mae llywodraeth Rishi Sunak bellach wedi cyhoeddi gwaharddiad.
Fe fydd cyfyngiadau ar hysbysebu a gwerthu fêps, a bydd rhai tafladwy yn cael eu gwahardd yn llwyr.
Bydd hi hefyd yn anghyfreithlon gwerthu cynnyrch tybaco i bobl a gafodd eu geni ar ôl 1 Ionawr 2009, er mwyn ceisio creu "cenhedlaeth ddi-fwg".
Beth sydd wedi'i gyhoeddi?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu bwrw 'mlaen â'u cynlluniau i wahardd fêps tafladwy, wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi'r un bwriad.
Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn cyflwyno pwerau newydd i gyfyngu ar wahanol flasau, cyflwyno pecynnau plaen, a newid y ffordd mae fêps yn cael eu harddangos mewn siopau fel nad ydyn nhw'n apelio at blant.
Fe fydd cyfraith newydd ar gyfer y DU gyfan yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon gwerthu cynnyrch tybaco i bobl gafodd eu geni ar ôl 1 Ionawr 2009.
Mae hynny'n golygu na fydd unrhyw un a oedd yn iau na 15 oed ar 1 Ionawr eleni yn gallu prynu tybaco yn gyfreithlon ar hyd eu hoes.
Bydd pwerau gorfodi newydd ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer unrhyw achosion o dorri'r ddeddfwriaeth newydd.
Does dim dyddiad wedi'i osod hyd yma ar gyfer pryd y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn dod i rym.
Mae'r cyfan yn rhan o gynllun i greu "cenhedlaeth ddi-fwg", a ddaw o ganlyniad i ymgynghoriad ar draws holl wledydd y DU ar ysmygu a fêpio a ddechreuodd fis Hydref y llynedd.
Daeth 27,921 o ymatebion i'r ymgynghoriad - 1,018 ohonyn nhw o Gymru.
O ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n "bwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps tafladwy ac yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU i godi'r oedran smygu a chyfyngu ar werthu fêps".
Dywedodd y dirprwy weinidog iechyd meddwl a llesiant, Lynne Neagle: "Smygu yw'r prif beth sy'n achosi salwch ataliadwy a marwolaethau cyn pryd yng Nghymru.
"Yn y Deyrnas Unedig, mae'n achosi chwarter o'r holl farwolaethau canser, ac yn gyfrifol am 80,000 o farwolaethau y gellir eu hatal bob blwyddyn, gyda 5,600 o'r rhain yng Nghymru.
"Er y gall fêps fod yn ddefnyddiol i rai smygwyr i'w helpu i roi'r gorau i smygu, mae data'n dangos bod nifer y plant sy'n fepio wedi treblu yn ystod y tair blynedd diwethaf.
"Oherwydd eu bod yn cynnwys nicotin ac oherwydd nad yw'r niwed hirdymor y gallan nhw eu hachosi yn hysbys ar hyn o bryd, mae fêps yn peri risg o niwed i iechyd plant ynghyd â risg o ddibyniaeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw "ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban" yn gwahardd fêps tafladwy o ganlyniad i'r "effaith sylweddol" ar yr amgylchedd.
"Mae'r defnydd o fêps tafladwy hefyd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bellach mae bron i bum miliwn yn cael eu taflu bob wythnos," meddai Ms Neagle.
"Yn ogystal â bod yn wastraffus iawn oherwydd eu cydrannau anodd eu hailgylchu, rydym yn gwybod fod plant yn defnyddio fêps tafladwy, a phan fyddan nhw'n cael eu taflu, maen nhw'n gallu rhyddhau cemegion gwenwynig i'r amgylchedd.
"Rydym am gymryd pob cam posibl i atal pobl ifanc rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf, i atal fepio ymhlith pobl ifanc a mynd i'r afael â'r effaith y mae fêps tafladwy yn eu cael ar yr amgylchedd."
Ar stryd fawr Bangor, roedd y farn yn ymddangos yn unfrydol - mae lle i fêps y mae modd eu hail-lenwi er mwyn helpu pobl i stopio smygu, ond mae cyfyngu ar eu defnydd yn beth da.
"Dwi'n meddwl ma' nhw'n dechra' dod yn gymaint o broblem â smygu," meddai Laura Jones.
"Mae lot o bobl ifanc yn meddwl bod o'n attractive - wbath stylish i 'neud.
"Dwi'm yn meddwl bo' ni'n gw'bod digon amdanyn nhw, be sy' ynddyn nhw, a bo' ni ddim yn gw'bod be' 'di'r effaith mewn blynyddoedd i ddod."
Ychwanegodd nad yw'n hoffi gweld "lot o siopau o gwmpas sy' jyst yn gwerthu fêps".
"Mae'n grêt bod smygu normal yn mynd allan trwy'r ffenest, ond dim er mwyn replacio fo efo wbath sy'n gallu bod yr un mor beryg," meddai.
Dywedodd Dewi Jones ei fod yn gweld fêps tafladwy "ar lawr ym mhobman".
"Dwi ddim yn siŵr am yr health benefits - dwi'n siŵr bo' nhw'n well na sigaréts - ond dwi jest ddim yn licio'r litter," meddai.
"Mae'n edrych fel bo' nhw'n marketed at blant.
"Dwi'n gweld o fel syniad da i weenio pobl oddi ar sigaréts - dim introducio nhw i dybaco."
Dywedodd Lilly-Anne, sy'n 16 oed, bod "pawb" o'i hoedran hi yn defnyddio fêps, gan ddisgrifio'r sefyllfa fel un "rili peryg".
"Dwi'n meddwl bo' lot o bobl yn 'neud o achos bo' pawb arall yn 'neud o," meddai.
"Ma' pawb dwi'n 'nabod yn 'neud o - dwi'm yn 'nabod yr un person sy' ddim.
"Dwi yn meddwl bod o'n amser iddyn nhw fynd rŵan - ma' pethau'n mynd out of hand."
Mae Siôn Martin yn cytuno bod pryder am y defnydd cynyddol o fêps gan bobl ifanc, gan awgrymu y byddai pecynnau plaen yn helpu i atal hynny.
"Dwi'n meddwl bo' nhw'n cael eu hysbysebu mewn ffordd sy'n gwneud nhw'n atyniadol i blant - lliwiau llachar a ballu," meddai.
"Maen nhw'n gw'bod be' maen nhw'n 'neud efo'u marketing nhw, yn bendant."
Ychwanegodd ei bartner Leona Martin: "Dwi'n meddwl bo' nhw'n gallu bod jysd mor addictive â sigaréts, a 'da ni ddim rili'n deall be 'di'r effaith hirdymor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2023
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023