Dyn 28 oed yn gwadu llofruddio babi pum mis oed

Fe wnaeth Thomas Morgan ymddangos yn Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed o Abertawe wedi gwadu llofruddio bachgen pum mis oed.
Mae Thomas Morgan o ardal Gorseinon wedi ei gyhuddo o lofruddio Jensen-Lee Dougal mewn eiddo yng Nghlydach ar 31 Mawrth 2024.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o dri chyhuddiad o achosi niwed corffol difrifol yn fwriadol iddo rhwng 4 Ionawr a 30 Mawrth 2024.
Mae wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau hynny hefyd.
Mae Mr Morgan, wnaeth ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener drwy gyswllt fideo, yn parhau yn y ddalfa.
Mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau ym mis Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf