Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o ladd babi pum mis oed

Bu Thomas Morgan gerbron Llys y Goron Abertawe fore Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed wedi ymddangos gerbron llys wedi'i gyhuddo o lofruddio bachgen pum mis oed.
Mae Thomas Morgan o Gorseinon wedi'i gyhuddo o lofruddio Jensen-Lee Dougal mewn eiddo yng Nghlydach ar 30 Mawrth 2024.
Cafodd yr achos yn Llys y Goron Abertawe ei ohirio tan y gwrandawiad nesaf ar 17 Hydref.
Y disgwyl ydy i'r achos llys ddechrau ar 19 Ionawr ac mae Mr Morgan yn parhau i fod yn y ddalfa.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf