Galw am wella gwasanaethau i bobl ag alergeddau
- Cyhoeddwyd
Mae gan blentyn dwy oed alergeddau mor ddifrifol fel bod ei rhieni yn gwneud iddi brofi bwyd newydd ym meysydd parcio ysbytai rhag ofn iddi fynd i sioc anaffylactig.
Dywedodd Gemma Whatling, mam Seren, ei bod wedi bod yn rhoi bwyd gan gynnwys cnau almon a chorgimychiaid iddi y tu allan i ysbyty oherwydd yr oedi wrth aros am ambiwlans wedi iddi ymateb yn wael i fwydydd gwahanol adref.
"Mae'n rhoi'r sicrwydd yna i ni oherwydd ni'n gwybod bod modd i ni ei chludo i'r ysbyty os oes unrhyw beth yn mynd o'i le," meddai'r fam o Fro Morgannwg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnal "ymarfer cwmpasu" i ddeall ansawdd y gwasanaeth i bobl sydd ag alergeddau.
'Roedd ei chroen yn brifo'
Dywedodd Ms Whatling, 42, ei bod hi a'i gŵr, Nick, wedi dechrau amau bod gan Seren alergeddau pan oedd ond yn dri mis oed.
"Roedd ei chroen yn brifo, ecsema wedi gwasgaru drosti, ac roedd yn anodd ei gadw dan reolaeth," meddai.
Yn dilyn cyngor gan y meddyg, fe wnaeth hi a'i gŵr gyflwyno gwahanol fwydydd i Seren " gyda gofal", ac fe gafodd Seren ei sioc anaffylactig gyntaf pan oedd ond yn chwe mis oed ar ôl cael llaeth o'r fuwch yn ystod pryd bwyd.
Mae Seren bellach wedi gorfod defnyddio triniaeth EpiPen chwe gwaith, meddi Ms Whatling.
Dywedodd fod rhai mathau o fwyd y mae'n rhaid iddyn nhw eu trio ger yr ysbyty, ond bod rhai eraill - cnau almon, corgimychiaid, ffacbys a chorbys - y mae modd iddyn nhw eu trio adref.
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2022
"Nid yw wastad wedi bod yn hawdd adnabod bwydydd sydd yn effeithio arni yn y gorffennol, felly rydym yn nerfus wrth gyflwyno bwydydd newydd adref, gan ein bod yn bell o'r ysbyty," meddai'r fam.
Dywedodd eu bod wedi cyflwyno rhai bwydydd i Seren mewn maes parcio ysbyty.
"Os yw'n cynnwys risg, rydym yn gwybod y gall ambiwlans gymryd amser hir i ddod, felly mae'n rhoi'r sicrwydd yna i ni ein bod yn medru cyrraedd ysbyty yn sydyn os oes rhywbeth yn mynd o'i le."
Pwysleisiodd fod y staff sydd wedi gofalu am Seren wedi bod yn "ffantastig", ond bod gwasanaethau ar gyfer pobl ag alergeddau yn "gyfyng" a "ddim yn gyson" ar draws y byrddau iechyd.
Yng Nghymru, mae'r GIG yn cynnig dau wasanaeth arbenigol i bobl sydd ag alergeddau. Maen nhw'n cael eu harwain gan aelodau o Gymdeithas Alergedd ac Imiwnedd Glinigol Prydain ac mae'r ddau yng Nghaerdydd.
Yn ôl gwefan y gymdeithas, mae 'na dros 100 o wasanaethau arbenigol yn Lloegr.
Mae'r teulu'n gobeithio ymgymryd â "her bwyd", sy'n helpu i benderfynu a oes gan Seren alergedd bwyd. Maen nhw ar restr aros bwrdd iechyd arall gan nad oes gan eu bwrdd iechyd nhw wasanaeth o'r fath.
Dywedodd Ms Whatling fod cael plentyn ag alergeddau difrifol yn "hynod frawychus".
Aeth ymlaen i ddweud fod Seren yn mynychu meithrinfa sawl gwaith yr wythnos, a'u bod yn "ceisio rhoi bywyd mor normal â phosib iddi".
"Rydym yn gorfod paratoi popeth," meddai. "Rydym yn meddwl ac yn cynllunio o flaen llaw, ac rydym yn trio sicrhau nad yw'n cael ei gadael ar ôl."
'Cyflwr meddygol difrifol'
Mae Sefydliad Natasha Allergy Research yn ceisio codi ymwybyddiaeth o alergeddau, gan bwysleisio bod alergeddau yn "gyflwr meddygol difrifol sy'n gallu effeithio ar fywyd".
Mae'r trefnydd, Tanya Laperouse, yn galw ar Lywodraeth y DU i benodi "pencampwr alergedd" i "gynrychioli yr un mewn tri o bobl sy'n byw ag alergeddau yn y DU".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau alergeddau gyda'r National Institute for Clinical Exellence (NICE).
"Er hyn, rydym yn cydnabod bod y gwasanaethau ar draws y byrddau iechyd yn amrywio ac rydym ar hyn o bryd yn gwneud 'ymarfer cwmpasu' i ddeall ansawdd y gwasanaeth a'r bylchau o fewn ein darpariaeth," medd llefarydd.