Alergedd: 'Dylai pawb ddysgu sut i ddefnyddio EpiPen'
- Cyhoeddwyd
I'r rheiny ohonom sy'n byw ag alergedd, mae'r ansicrwydd o wybod y gallem ni gael adwaith ddifrifol heb rybudd yn gallu gwneud bywyd yn anodd.
Felly, mae gwybod fod pobl wedi cael hyfforddiant EpiPen yn helpu i dawelu rhywfaint o'r ansicrwydd.
Chwistrelliad o adrenalin sydd mewn pen EpiPen, Emerade a Jext ac maen nhw'n cael eu defnyddio pan fo rhywun sydd ag alergedd yn cael sioc anaffylactig - sef adwaith ddifrifol sy'n gallu bygwth bywyd.
Mae rhai o'r arwyddion fod rhywun mewn sioc anaffylactig yn cynnwys anhawster difrifol wrth anadlu, yr wyneb yn chwyddo, bod yn ben-ysgafn a/neu golli ymwybyddiaeth.
'Dw i'n cario dau EpiPen gyda fi i bob man ers i fi gael diagnosis o alergedd cnau yn wyth oed.
Diolch i'r drefn, 'dw i erioed wedi cael adwaith wael ers hynny ac felly ddim wedi gorfod defnyddio'r chwistrelliad.
Ond i un fam o Orseinon ger Abertawe, mae'r pryder am alergedd cnau ei mab chwech oed wedi ei harwain at gynnig hyfforddiant EpiPen i staff ac aelodau ei glwb pêl-droed.
Mae galw gan arbenigwr i'r hyfforddiant gael ei gynnig i bawb, gan y gallai hynny arbed bywydau.
Ar ôl i Rachel Williams siarad â Sefydliad Pêl-droed Abertawe, sy'n rheoli gwersylloedd pêl-droed lleol, fe wnaethon nhw ei gwahodd i gynnig hyfforddiant i glybiau.
Dywedodd y gallai hynny arbed bywyd ei mab petai'n cael adwaith.
"Fe ofynnon nhw i fi am stori Jake felly fe wnes i ddweud wrthyn nhw sut ddaethon ni i wybod am ei alergedd," dywedodd Rachel.
"Fe ddywedais i wrthyn nhw am y gwahanol symptomau ry'n ni wedi dod ar eu traws ar hyd y blynyddoedd gan nad ydyn ni wedi gorfod defnyddio epi-pens ond ry'n ni wedi gorfod defnyddio meddyginiaeth."
Fel fi, mae gan Jacob alergedd i bob math o gnau, llwch, blew cathod ac mae'n byw gyda chlefyd y gwair.
Dywedodd ei fam, Rachel, nad oedd hi eisiau i'w mab fethu â chymryd rhan mewn gweithgareddau ond ei bod hi'n nerfus iawn am beidio bod yno petai rhywbeth yn digwydd.
Yn ôl Tom Williams, Pennaeth Rhaglenni ar gyfer Sefydliad Pêl-droed Dinas Abertawe, mae angen i blant sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath deimlo'n ddiogel.
"Mae'n bwysig iawn ein bod hi'n cynnig amgylchedd ddiogel fel y gall rhieni adael eu plant gyda ni a theimlo'n hyderus ein bod ni'n gallu delio gydag unrhyw broblemau meddygol a allai godi," dywedodd.
"Fe wnaeth yr hyfforddiant leddfu pryderon nifer o'r staff, a dangos nad yw defnyddio chwistrelliad yn gymaint o beth ag yr oedden nhw wedi ei ofni.
"Mae'n beth ddigon syml i wneud ac mae'n gallu arbed bywydau."
'Fe ddylai pawb wybod sut i achub bywyd'
Mae diffyg ymwybyddiaeth ar sut i ddefnyddio chwistrelliadau adrenalin yn ôl Sarah Baker, Rheolwr Ymgyrchoedd gydag Ymgyrch Anaffylacsis.
"Mae hyfforddiant ar sut i'w defnyddio a sut maen nhw'n gweithio yn bwysig iawn i bawb, oherwydd gallech chi fod yn cerdded i lawr y stryd, neu yn y parc, neu gyda aelod o'r teulu neu ffrind sy'n cael adwaith anaffylacsis ac yn cario chwistrelliad adrenalin gyda nhw.
"Dw i'n meddwl y dylai pawb fod yn ymwybodol o beth yw anaffylacsis, sut i'w adnabod ac yna sut i ddefnyddio gwahanol fathau o chwistrelliadau adrenalin sydd ar gael."
I Rachel, mae gallu rhannu ei gwybodaeth er mwyn cadw ei mab yn ddiogel wedi helpu gyda'i phryder.
"Mae'n dda gwybod eu bod nhw'n fodlon ei gymryd o ddifrif. Dw i'n wirioneddol ddiolchgar eu bod nhw'n fodlon gwneud hynny.
"Mae'n bendant yn mynd i helpu yn y dyfodol pan fydd Jacob yn mynd i ragor o ddiwrnodau fel 'na."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2016