Tîm hoci merched Cymru yn sicrhau dyrchafiad am y tro cyntaf ers 2003

hociFfynhonnell y llun, Hoci Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tîm merched Cymru yn dathlu wedi eu llwyddiant ym Mhencampwriaeth Menywod EuroHockey II

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm hoci merched Cymru wedi sicrhau dyrchafiad am y tro cyntaf ers 2003 wedi eu perfformiad ym Mhencampwriaeth Menywod EuroHockey II yn Gniezno yng Ngwlad Pwyl.

Gan eu bod wedi dod yn ail a chipio'r fedal arian maen nhw hefyd wedi cymhwyso ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd - a hynny am yr eildro yn unig yn eu hanes.

Betsan Thomas o Langyndeyrn, Sir Gaerfyrddin a gafodd ei dewis yn chwaraewraig orau y bencampwriaeth.

Roedd yna lwyddiant i dîm dynion Cymru hefyd - fe enillon nhw Bencampwriaeth EuroHockey II wedi iddyn nhw drechu Iwerddon yn y gêm derfynol.

Pynciau cysylltiedig